Darparwyr prentisiaethau’n helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial
Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn benderfynol o helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial yn y gweithle trwy ddod yn brentisiaid, yn ôl un o siaradwyr Cynhadledd Cynhwysiant Anabledd Cymru.
Lisa Mytton yw cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad, ac amlinellodd y gwaith y mae ei aelodau’n ei wneud i helpu pobl anabl i ddod o hyd i waith trwy brentisiaethau.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed uchelgeisiol o 125,000 o brentisiaethau newydd yn ystod ei thymor presennol,” meddai. “Er mwyn cyrraedd y targed hwn, mae’n cydnabod yr angen i annog a galluogi llawer mwy o bobl anabl dalentog i ymgeisio am brentisiaethau a’u cychwyn.
“Rydym ni fel ffederasiwn wedi ymrwymo i wneud ein gorau i helpu pobl ag anableddau i ddod o hyd i brentisiaethau. Mae helpu pobl i oresgyn rhwystrau wrth chwilio am brentisiaeth yn rhan ganolog o’n gwaith.
“Caiff hyn ei adleisio gan Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a’u gweledigaeth ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal lle mae angen i ni gydweithio i sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl.
“Yn ôl y dystiolaeth, mae pobl anabl yn cael profiadau cadarnhaol iawn o brentisiaethau ar y cyfan. Mae angen i ni gydweithio mwy i annog pobl ag anableddau i wneud prentisiaethau ac annog cyflogwyr i ddysgu sut i’w recriwtio.”
Datgelodd mai canran isel o brentisiaethau yng Nghymru a lenwir gan bobl anabl ar hyn o bryd, sy’n dangos bod cyflogwyr yn colli allan ar sylfaen sgiliau gwerthfawr. Mae pobl anabl 30% yn llai tebygol o fod yn gweithio.
Soniodd Lisa am y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael tan fis Mawrth 2023, fel ffordd ddelfrydol o annog cyflogwyr i brofi manteision recriwtio pobl dalentog sydd ag anableddau.
“Mae cyflogwyr yn dechrau deall ei bod hi’n bwysig rhoi cyfle teg a chyfartal i bawb,” meddai. “Maen nhw hefyd yn gweld eu bod nhw’n gallu dewis o gronfa ehangach o dalent.
“Gellir gwneud bron bob prentisiaeth yn hygyrch a ddylai’r ffaith bod rhywun yn anabl ddim cyfyngu ar eu dewisiadau o ran swyddi.”
Aeth ati i annog pobl ag anableddau neu anawsterau dysgu, ac sydd â diddordeb mewn prentisiaeth, i geisio cymorth a chefnogaeth gan ddarparwyr hyfforddiant. “Does dim rhaid i chi dderbyn y gair ‘anabl’ fel label, ond gellir ei ddefnyddio fel ffordd o gael cefnogaeth,” meddai.
Daeth Lisa â’i hanerchiad i ben drwy amlygu 10 rheswm pam y dylai cyflogwyr ystyried cyflogi rhywun anabl, gan gynnwys creu gweithlu amrywiol, creadigol a theyrngar lle mae staff yn aros yn hirach, a llai o gostau recriwtio.
Prentisiaethau ar gyfer pobl anabl
More News Articles
« Newyddion diweddaraf Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd — Katie’r cogydd yn bwydo clwb cinio ac yn sôn am ei phrentisiaeth »