Darparwr prentisiaethau ledled Cymru yn dathlu adroddiad disglair Estyn
Mae un o’r darparwyr dysgu seiliedig ar waith gorau yng Nghymru yn dathlu ar ôl derbyn adroddiad disglair gan Estyn, yn dilyn arolwg dros yr haf hwn.
Mae uwch arweinwyr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, sydd â swyddfeydd ledled Cymru, yn cael eu cydnabod am sefydlu “gweledigaeth glir ac amcanion strategol i ddiwallu anghenion ei ddysgwyr a’i gyflogwyr”.
“Mae’r weledigaeth, sydd wedi’i halinio â gwerthoedd craidd y cwmni, yn amlwg yn cefnogi cynaliadwyedd y darparwr a’i ddarpariaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol drwy weithio’n arbennig o dda gyda grwpiau sy’n cynrychioli cyflogwyr allweddol,” meddai’r adroddiad.
Gwnaeth y ffordd y gwnaeth uwch arweinyddiaeth y cwmni ymgysylltu â’r sectorau lletygarwch, bwyd a diod creu argraff ar yr arolygwyr a gofynnodd i’r busnes baratoi astudiaeth achos arfer gorau ar gyfer gwefan Estyn.
Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian:
“Rydym yn hynod falch o arolwg ac adroddiad cadarnhaol Estyn. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i’n hymrwymiad i adnabod ein dysgwyr, diwallu eu hanghenion cymorth unigol a sicrhau bod gan bob dysgwr yr offer i lwyddo.
“Rydym yn falch iawn o gynnig ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys cyrsiau arbenigol wedi’u teilwra i fodloni gofynion unigryw dysgwyr a chyflogwyr. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ein hymroddiad i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n paratoi ein dysgwyr ar gyfer llwyddiant yn eu meysydd dewisol a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Mewn partneriaeth â 10 is-gontractwr, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 ar gyfer Medr ar draws Cymru.
Mae’r rhan fwyaf o’r 2,100 o brentisiaid yn gweithio yn y sectorau lletygarwch ac arlwyo, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal.
Darperir prentisiaethau hefyd mewn gweithgynhyrchu bwyd a diod, cigyddiaeth, blynyddoedd cynnar plant, rheoli ac arweinyddiaeth, peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu, gwallt a harddwch, marchnata digidol, chwaraeon a hamdden, gweinyddu busnes, manwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid, a rheoli adnoddau cynaliadwy.
Mae’r cwmni’n cael ei ganmol am ei hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a’u datblygiad yn y gweithle gyda chefnogaeth gref gan gyflogwyr.
“Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu sgiliau ymarferol sy’n briodol i’w swyddi ac yn defnyddio’r rhain i ddod yn aelodau cynhyrchiol a gwerthfawr o’u gweithle,” meddai’r adroddiad. “Mae llawer o ddysgwyr yn uchelgeisiol i symud ymlaen o fewn eu gyrfaoedd a’u rhaglen brentisiaethau lefel uwch.
“Cyflawnir hyn oherwydd bod swyddogion hyfforddi yn ymarferwyr y diwydiant sy’n integreiddio cyd-destunau gweithle go iawn i gynlluniau hyfforddi ac asesu dysgwyr yn dda.
“Mae’r holl swyddogion hyfforddi yn manteisio ar ystod eang o gyfleoedd i ddiweddaru eu sgiliau proffesiynol a galwedigaethol trwy ddychwelyd i’r diwydiant a dilyn cyrsiau arbenigol i ddiwallu eu hanghenion unigol.
“Mae’r darparwr a’i isgontractwyr yn ymgysylltu’n dda â chyflogwyr sefydledig a newydd, gan gynnig cyfleoedd prentisiaeth i ddiwallu eu hanghenion hyfforddi a recriwtio.”
Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn cael eu cydnabod am eu hethos cryf o ofal a chymorth i’w dysgwyr a’u staff.
“Mae swyddogion hyfforddi yn adnabod eu dysgwyr yn dda,” ychwanega’r adroddiad. “Maent yn cadw cysylltiad rheolaidd â’u dysgwyr ac yn hyblyg wrth ddiwallu eu hanghenion cymorth personol, y tu mewn a’r tu allan i sesiynau sydd wedi’u cynllunio.”
Mewn ymateb i argymhellion Estyn, mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian gynllun gweithredu i wella llwyddiant fframwaith a chyfraddau cwblhau, gosod targedau a hunanwerthuso.
Isgontractwyr y cwmni yw Apprenticeship Group Wales, Call of the Wild, Clybiau Plant Cymru, Inspiro, Lifetime Training, NTG Training, Portal Training, Progression Training, Sirius Skills a Work Based Training Agency.
More News Articles
« Dweud Eich Dweud ar y fwydlen newydd o gymwysterau mewn lletygarwch ac arlwyo — Cymru i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 »