Dweud Eich Dweud ar y fwydlen newydd o gymwysterau mewn lletygarwch ac arlwyo

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Apprentice chef in kitchen making a plait loaf of bread

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei benderfyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ôl-16 mewn lletygarwch ac arlwyo yn gynharach eleni. Drwy cynnwys eraill yn ein gwaith, bydd dewislen newydd a symlach o gymwysterau yn barod ar gyfer dysgwyr o fis Medi 2027.

Ers hynny mae tîm Cymwysterau Cymru wedi parhau i gydweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu meini prawf cymeradwyo drafft, a fydd yn cael eu defnyddio gan gyrff dyfarnu i ddatblygu’r cymwysterau newydd.

Mae’r meini prawf cymeradwyo drafft bellach yn fyw ar blatfform Dweud Eich Dweud, ac mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd rhanddeiliaid i gymryd rhan a rhannu eu barn. Bydd y cyfle i roi adborth yn cau ddydd Gwener 18 Hydref.

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru:
“Wrth wraidd y penderfyniadau hyn mae ein hargyhoeddiad y dylai dysgwyr allu dilyn cymwysterau modern sy’n berthnasol i’r diwydiant sy’n cael eu cydnabod yng Nghymru a thu hwnt. Ar ôl ystyried adborth gan randdeiliaid yn ofalus, credwn y bydd y gyfres newydd a symlach o gymwysterau yn bodloni ein hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghenion cyflogwyr yn y sector lletygarwch ac arlwyo. Mae’n setor sy’n symud yn gyflym, ac fi fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.”

Gyda dros 165,000 o bobl, gan gynnwys llawer o bobl ifanc, wedi’u cyflogi yn y diwydiant, a chyda’i rôl hanfodol yn economi Cymru, mae’n hanfodol bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at gymwysterau cyfoes o ansawdd uchel a gydnabyddir yn eang.

Mae’r rhain yn ffactorau sydd wedi arwain gwaith Cymwysterau Cymru gan ei fod wedi gwneud ei benderfyniadau – sy’n cynnwys:

  • sefydlu cyfres symlach newydd o gymwysterau lletygarwch ac arlwyo Made-for Wales ar lefelau 1, 2 a 3 ar gyfer colegau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith – a fydd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen ym maes arlwyo, bwyd a diod neu’r ddau (gwasanaethau lletygarwch)
  • y cymwysterau sy’n cael eu cynnig gan ddefnyddio dull y farchnad agored, lle gall mwy nag un corff dyfarnu ddylunio a darparu’r cymwysterau – gan sicrhau dewis i ganolfannau, a symleiddio’r cynnig presennol

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Cymwysterau Cymru gan gynnwys newyddion, cyhoeddiadau, arolygon a’r digwyddiadau diweddaraf, cofrestrwch i’n cylchlythyr misol wrth glicio ar y botwm sydd ar dudalen gartref ein gwefan: cymwysterau.cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —