Hyrwyddo Prentisiaethau trwy Gystadlu a Dathlu Llwyddiant ar Lwyfan Cyhoeddus

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

presenting awards to winners

Fis diwethaf ymunodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian ag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru i gynnal cystadlaethau lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC) a drefnwyd gan Gymdeithas Goginio Cymru. Am y tro cyntaf cynhaliwyd y Pencampwriaethau yn ICC Cymru, Casnewydd, sy’n lleoliad o safon fyd-eang. Roedd yno gynulleidfa o gogyddion gorau’r wlad, pobl o’r sector lletygarwch a’r cyhoedd.  Dros dridiau, bu 40 o brentisiaid o bob rhan o Gymru yn cystadlu mewn gornestau Celfyddydau Coginio, Patisserie a Melysion, a Sgiliau Bwyty.  Roedd pawb yn unfryd ei fod y digwyddiad llwyddiannus.

“Ers llawer gormod o amser, bu pobl o dan gamargraff bod prentisiaethau’n israddol i lwybr academaidd traddodiadol.  Dydi hyn ddim yn wir o gwbl” meddai Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Rydyn ni yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian yn hybu prentisiaethau trwy roi cyfle i brentisiaid ddangos eu doniau a dathlu llwyddiant mewn digwyddiadau mawr ac nid y tu ôl i ddrysau caeedig” meddai.

Roedd Rosie Koffer a Gabbi Wilson, cogyddion commis a phrentisiaid coginio proffesiynol Lefel 3 ym mwyty hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Chartists 1770 yn The Trewythen, yn cymryd rhan yng nghystadlaethau WICC eleni.  Enillodd Rosie, gyda Gabbi fel ei commis, fedal arian yng ngornest Cogydd Iau Cymru a Gabbi, gyda Rosie fel ei commis, enillodd Her gyntaf y Cogydd Gwyrdd, a noddwyd gan Compass Cymru.  Mae’r fwydlen lysieuol dri chwrs a enillodd y fedal aur ar werth yn Chartists 1770 erbyn hyn. Daeth Ben Roberts, sydd wedi cwblhau cyfres o brentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 4 gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn ail yng nghystadleuaeth Cigydd y Flwyddyn Cymru, ddyddiau’n unig ar ôl lansio’i siop gigydd ei hun, Astley & Stratton yn Farndon, ger Caer.

Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sef prif ddarparwr prentisiaethau seiliedig ar waith ym maes bwyd a diod, sy’n noddi gwobr Prentis y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru hefyd fel rhan o Wobrau Bwyd a Diod Cymru.  Mae’r wobr honno’n agored i unigolion sydd ar gynllun prentisiaethn yn y sector bwyd a diod yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i brentisiaid ymgeisio gan mai’r dyddiad cau yw hanner nos ar 23 Chwefror.  Er mwyn bod yn Brentis y Flwyddyn Cymru, Bwyd a Diod, mae’r beirniaid yn chwilio am unigolion sydd ag uchelgais, egni, sgiliau a gweledigaeth, ac a gafodd lwyddiant pendant mewn busnes eisoes.

Gall prentisiaid ymgeisio trwy’r wefan neu gall rheolwr llinell, cynrychiolydd adnoddau dynol, neu diwtor coleg eu henwebu.  Mae ymgeisio’n broses syml, ddi-dâl a gellir gwneud hynny ar ffurflen fer ar y wefan: https://foodanddrinkawards.wales/  Caiff yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gwrdd â’r panel beirniaid am sgwrs anffurfiol lle penderfynir ar yr enillydd.

“Yn ein barn ni yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, mae’n bwysig iawn bod pawb yng Nghymru, boed yn ddisgyblion ysgol, athrawon, rhieni neu gyflogwyr, yn gwybod am brentisiaethau a’r manteision y maen nhw’n eu cynnig o ran sgiliau i ddysgwyr a busnesau fel ei gilydd.  Mae cystadlaethau a gwobrau i brentisiaid a gynhelir ochr yn ochr â phrif gystadlaethau a gwobrau’r diwydiant yn helpu i gyflawni hyn” meddai Faith O’Brien.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —