Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio dau ymgynghoriad, yn ceisio barn ar eu Cynllun Strategol drafft 2024-27, a’u Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28. Mae’r dogfennau allweddol hyn yn gosod blaenoriaethau a chyfeiriad y sefydliad i’r dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriadau hyn o ddiddordeb penodol i gofrestreion, aelodau’r cyhoedd, a rhanddeiliaid addysg. Hoffai’r CGA glywed gan unigolion a sefydliadau. Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u hystyried cyn cyhoeddi’r cynlluniau terfynol.
Gallwch roi eich adborth nawr. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 12:00 ddydd Llun 25 Mawrth 2024.
Newidiadau cofrestru CGA ar gyfer AB ac addysg oedolion
O 1 Ebrill, bydd nifer o newidiadau yn dod i rym ar gyfer rheiny sy’n gweithio mewn addysg bellach (Ab0 ac addysg oedolion ledled Cymru. Bydd hyn hefyd yn golygu newidiadau i ofynion ar gyflogwyr yn y meysydd yna. Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn ar wefan CGA.
Addysgwyr Cymru
Porthol swyddi Addysgwyr Cymru yw’r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, sy’n ei wneud yn lle delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am swyddi. Fel sefydliad, gallwch hysbysebu eich swyddi gwag am ddim ar Addysgwyr Cymru ac elwa o’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael i chi, gan gynnwys mynediad at gronfa dalent Cymru gyfan.