Gwarant i Bobl Ifanc

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Logo - Gwarant i Bobl Ifanc

Trwy Raglen Lywodraethu 2021-26, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflenwi Gwarant i Bobl Ifanc gyda’r nod o sicrhau bod pawb o dan 25 oed, ledled Cymru, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cael cynnig lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i gychwyn mewn gwaith neu hunangyflogaeth.

Mae llawer o elfennau yn eu lle i fod yn sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant y Warant i Bobl Ifanc, yn cynnwys rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru+, ReAct+, Cymunedau am Waith neu Brentisiaethau.

Mae’r Warant yn ymdrechu i sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yn unman yng Nghymru, ac mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) wedi cefnogi’r broses gyflwyno trwy gynnal ymchwil desg i ganfod yr holl brosiectau a rhaglenni sydd eisoes yn cefnogi pobl ifanc ledled y de-ddwyrain ac i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa yn y rhanbarth. Yn ogystal, mae PSPRC wedi defnyddio’i rhwydweithiau ac wedi cynnal gwahanol ddigwyddiadau ymgysylltu er mwyn annog cydweithio ac fel rhan o ethos ‘Tîm Cymru’.

Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol y Warant, ‘Cyfres Z cenhedlaeth Gwarant Person Ifanc: adroddiad blynyddol 2022’ (sic). Dyma’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau eleni a fydd yn darparu data ansoddol a meintiol ynghyd â dadansoddiad. Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau sydd ar y gweill i helpu pobl rhwng 16 a 24 oed i ganfod addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac mae’n nodi sut y cymerwyd camau i wella’r broses o ganfod pobl ifanc y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.

Bydd PSPRC yn dal i gefnogi rhaglen flaengar y Warant a bydd yn hybu cefnogaeth i Grŵp Cynghori rhanbarthol y Warant a fydd yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac yn dylanwadu arnynt.

Yn gysylltiedig â’r Warant, mae PSPRC yn gobeithio paratoi fersiwn ‘hawdd ei darllen’ o’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau strategol, wedi’i hanelu at bobl iau. Efallai y cynhyrchir fideos wedi’u hanimeiddio ar sail y fersiwn ‘hawdd ei darllen’ i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ar draws sectorau allweddol y rhanbarth.

Cardiff Capital Region logo

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —