Cyfieithydd yn cyfuno Prentisiaeth Uwch a gwaith actio

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Cedron Sion wedi cytuno i fod yn Llysgennad Prentisiaethau wrth iddo gyfuno’i waith fel cyfieithydd a’i uchelgais ym myd actio.

Cedron sitting at computer with headphones on.

Mae Cedron Sion, Llysgennad Prentisiaethau, yn cyfuno’i waith fel cyfieithydd a’i uchelgais ym myd actio.

Rai misoedd ar ôl cwblhau Gradd mewn Actio, cafodd Cedron, 26, o Borthmadog, ei dderbyn i wneud prentisiaeth mewn cyfieithu gyda’r Tîm Gwasanaethau Cymraeg yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW/AaGIC).

Ar ôl ychydig fisoedd, cafodd swydd cyfieithydd llawn amser yn yr adran ac erbyn hyn mae’n gweithio tuag at Dystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu (y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau). Cynigir y Brentisiaeth Uwch hon gan Agored Cymru a’i chyflenwi trwy gyfrwng y Gymraeg gan Goleg Gŵyr, Abertawe.

Cyn gwneud gradd BA mewn Actio yn y Central School of Speech and Drama yn Llundain, roedd Cedron wedi dilyn blwyddyn o gwrs BA Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd y cwrs ym Mangor, ynghyd â’r cwrs Lefel A Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, wedi cadarnhau ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg. Dywed Cedron ei fod wedi mwynhau aildroedio’r llwybr academaidd wrth weithio ar unedau’r brentisiaeth. Maent yn ei ysgogi i ymchwilio i’r gwahanol agweddau ar y proffesiwn cyfieithu, yn cynnwys elfennau moesegol, cymdeithasol-ddiwylliannol ac ieithyddol, meddai.

“Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth,” dywedodd. “Gall y gwaith gynnwys cyfieithu cofnodion, cyflwyniadau meddygol ac adnoddau addysgol.

“Mae’r Brentisiaeth Uwch rwy’n ei dilyn yn cynnwys unedau ymchwil sy’n golygu tyrchu i wahanol haenau’r proffesiwn ac felly ddod i ddeall fy ngwaith yn well.

“Dwi’n credu bod prentisiaeth yn ddull gwerthfawr o ddysgu mewn ffordd ymarferol, gan fireinio’ch crefft wrth weithio.”

Yn ddiweddar, penodwyd Cedron yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae wedi cymryd rhan mewn sesiynau meddiannu Instagram er mwyn rhannu ei brofiadau a sôn am gyfleoedd i wneud prentisiaethau dwyieithog yng Nghymru.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Dwi wedi bod yn falch o fy etifeddiaeth Gymreig erioed, yn enwedig yr iaith,” meddai. “Mae’n galonogol iawn cael gweithio mewn sefydliad sy’n pwysleisio gwerth yr iaith Gymraeg yng Nghymru a’r tu hwnt.”

Dywedodd Huw Owen, rheolwr Gwasanaethau Cymraeg AaGIC: “Mae Cedron yn berson dawnus a chydwybodol iawn. Mae ei sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn anhygoel. Mae’n ddewis delfrydol i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.”

Dywedodd Huw hefyd fod y galw am brentisiaethau a gwasanaethau dwyieithog yn AaGIC yn tyfu’n gyflym. “Rydyn ni’n gweld bod mwy a mwy o bobl ifanc yn holi am gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai. “Mae’n ddyletswydd arnon ni i roi cyfleoedd i’n staff i ddysgu yn eu dewis iaith.”

Dywedodd Einir-Wyn Hawkins, asesydd a chydgysylltydd masnachol Coleg Gŵyr, Abertawe, bod Cedron yn ddelfrydol i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.

“Dros y blynyddoedd, rwy wedi ymdrechu i gynnwys elfen ddwyieithog ym mhob rhaglen os yw’n ymarferol ac yn berthasol,” meddai. “Mae’n bleser gweithio gyda Cedron. Mae ei Gymraeg ysgrifenedig a llafar a’i waith ymchwil bob amser o safon uchel iawn ac mae’n wych ei weld yn datblygu ei sgiliau fel cyfieithydd.

“Mae’n hyfryd cael y cyfle i drafod gyda chynrychiolwyr cyflogwr Cedron yn Gymraeg bob amser hefyd. Dyma’r tro cyntaf i ni gyflawni pob agwedd ar y Brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, bob cam o’r ffordd.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

aagic.gig.cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —