Llysgennad Prentisiaethau’n symud o’r dosbarth i ddysgu seiliedig ar waith

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ar ôl pum mlynedd yn athro mewn ysgolion Cymraeg, cynradd ac uwchradd, mae Kameron Harrhy yn defnyddio’i wybodaeth a’i brofiad yn ei swydd newydd fel prentis gydag ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith yng Nghaerdydd.

Kameron standing by a whiteboard in the classroom.

Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg, Kameron Harrhy.

Mae Kameron, 27, o’r Coed-duon, yn gweithio ar ddatblygu cwricwla Cymraeg yn ACT er mwyn helpu ymarferwyr y cwmni a’r dysgwyr sydd yn yr ysgol neu’n cymryd rhan mewn hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.

Mae’n cydweithio â thimau o dan arweiniad Vicky Galloni, rheolwr datblygu cwricwla ACT a Non Wilshaw, rheolwr datblygu’r Gymraeg, i ddatblygu cwricwla ac adnoddau dysgu, yn cynnwys ffilm, i ymwneud â dysgwyr sy’n cael y cyfle i ddysgu’n ddwyieithog.

Mae hefyd yn sicrhau bod y dimensiwn Cymreig a diwylliant Cymru’n cael eu cynnwys yn holl adnoddau dysgu’r cwmni.

Er mwyn deall profiad y dysgwr yn well, mae Kameron yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu, trwy City & Guilds, wedi’i gyflenwi gan ACT, a dyfarniad asesydd.

Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae hefyd wedi’i benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Rwy’n arbenigo mewn datblygu yn yr iaith Gymraeg gan weithio’n ddwyieithog,” esboniodd Kameron, a gafodd radd gyfun mewn Cymraeg, a Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd yn athro.

“Mae’n bwysig iawn fy mod i’n gwneud prentisiaeth er mwyn dod i ddeall profiad y dysgwr. Mae’n fy helpu i ganolbwyntio ar fy uchelgeisiau.”

Dywedodd fod cael ei benodi’n Llysgennad Prentisiaethau’n fater o falchder iddo a’i fod yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd y mae prentisiaethau’n eu rhoi i ddysgwyr.

“Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n addas ar gyfer fy swydd bresennol pe na bawn i wedi bod ym myd addysg,” meddai. “Mae gweld y cyfleoedd sydd ar gael ym myd dysgu seiliedig ar waith wedi bod yn agoriad llygad i mi.

“Er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hollbwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i ddysgu trwy eu dewis iaith. Dylen ni fod yn falch o gael hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith lewyrchus a ddefnyddir yn y gweithle.”

Dywedodd Vicky Galloni fod Kameron wedi creu argraff ffafriol iawn yn ACT. “Mae’n rhoi hwb i ni i sicrhau ein bod yn hollol ddwyieithog a’n bod yn hyrwyddo’r dimensiwn a’r diwylliant Cymreig ac yn eu cynnwys yn ein holl adnoddau ac ym mhopeth a wnawn.

“ACT yw’r sefydliad hyfforddi cyntaf yng Nghymru i ddatblygu proses dderbyn hollol ddwyieithog ar gyfer y prentisiaid a bu gan Kameron ran flaenllaw yn hynny.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

cymraeg.acttraining.org.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —