Cefnogaeth hyfforddwyr yn helpu dysgwyr y gogledd i oresgyn rhwystrau’r cyfnod clo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Samantha Hobson yn symud ymlaen â’i Hyfforddeiaeth Lefel 1 trwy weithio gartref yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru’n llwyddo i barhau â’u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.

Mae darparwyr hyfforddiant wedi dangos hyblygrwydd wrth addasu eu dulliau dysgu er mwyn sicrhau nad yw eu dysgwyr yn cael trafferth dal i fyny â’u rhaglenni dysgu oherwydd y cyfyngiadau symud.

Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad â phrentisiaid a hyfforddeion a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a’u Hyfforddeiaethau.

Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.

Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’u dysgwyr sy’n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi’i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol.

Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd grŵp i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i’w wneud gartref.

Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda’r sylw’n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i’r economi pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae’r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i’r dysgwyr, ond i’r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella’u sgiliau a datblygu rhai newydd.

Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

“Mae’n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu’n brysurach nag erioed ac maen nhw’n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,” meddai. “Mae’r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae’r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i’w diwrnod trwy beidio â gorfod teithio o le i le.

“Pan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio’n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny’n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau â’u prentisiaethau a’u hyfforddeiaethau.”

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru


 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.
 
“Ein nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar ôl y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu’n fwy cyfartal ledled Cymru – mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i’w chwarae yn hyn.
 
“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy’n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.”

Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu’n fawr ar bobl ifanc.

“Wrth i ni ailgychwyn ar ôl y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae’r NTfW a’i aelodau’n barod i gydweithio’n agos â’r Gweinidog a’i dîm i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.”

Yn ôl un darparwr hyfforddiant yn y gogledd, North Wales Training, mae’r staff, y prentisiaid a’r hyfforddeion wedi addasu’n dda i’r ffyrdd newydd o gyflwyno hyfforddiant, o bell.

Mae gan y cwmni 56 o staff ac mae’n cyflenwi rhaglenni dysgu i 470 o brentisiaid a 95 o hyfforddeion ym meysydd gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, rheoli a gwasanaethau proffesiynol, lletygarwch, a manwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid.

Gall y staff ddefnyddio Zoom, WhatsApp a system e-bortffolios Smart Assessor yn ogystal â’r ffôn i gysylltu â’r dysgwyr. Gosodir targedau gwaith ar gyfer y dysgwyr ac maent yn cymryd rhan mewn sesiynau gwybodaeth, trafodaethau proffesiynol, gwaith ar aseiniadau a phrofion ar ffurf cwisiau trwy gyfrwng Zoom.

Ruth Collinge, North Wales Training

“Mae’r dysgwyr yn dal ati i ddysgu. Maen nhw eisoes yn gyfarwydd â Smart Assessor ac felly yr unig wahaniaeth i lawer yw diffyg cysylltiad wyneb yn wyneb i wneud y gwaith arsyllu angenrheidiiol,” meddau Ruth Collinge, rheolwr contractau North Wales Training.

“Rydym wedi addasu amserau’r apwyntiadau gan eu cynnal gyda’r nos neu’n gynnar yn y bore i fod yn gyfleus i’r dysgwyr, yn enwedig y rhai yn y sector gofal sy’n gorfod ymdopi â shifftiau ychwanegol, a’r staff sy’n gweithio gartref gyda phlant bach.”

Sefydlwyd grwpiau Facebook fel y gall y staff gadw mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n gweithio ar Hyfforddeiaethau. Bob bore, mae’r staff yn “galw’r gofrestr” ar-lein gan holi sut mae’r dysgwyr ac fe gaiff cofrestrau gweithgareddau Smart Assessor y dysgwyr eu llenwi bob dydd.

“Cynhelir adolygiadau o waith y dysgwyr trwy gyswllt fideo Zoom neu dros y ffôn,” esboniodd Ruth. “Mae’r dull hwn o gysylltu â’r dysgwyr wedi bod yn fwy effeithiol na’r disgwyl ac mae’r dysgwyr wedi sôn yn ffafriol amdano yn ystod yr adolygiadau.

Bu’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ardderchog o gadw mewn cysylltiad â’r dysgwyr hefyd. Wrth i bobl weithio gartref, bu’n gyfle i ni gynnig Hyfforddeiaethau i ddysgwyr mewn ardaloedd gwledig sy’n methu cyrraedd ein canolfannau. Caiff hyn ei ddatblygu eto ar ôl codi’r cyfyngiadau symud.”

Mae Samantha Hobson, 16 oed, o Landudno yn un o ddysgwyr y cwmni. Mae’n dilyn rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 ac mae ar gyfnod prawf ar leoliad gwaith mewn warws yng Nghonwy.

Yn ystod y cyfnod clo, mae’n gweithio ar gwrs ffotograffiaeth yn y gobaith y bydd yn hwb i’w gyrfa. Mae hefyd yn gobeithio cael tystysgrif arian yr Inspiring Digital Enterprise Award er mwyn gwella’i sgiliau digidol, ei sgiliau menter a’i chyflogadwyedd.

Mae ei swyddog hyfforddi yn North Wales Training yn ei ffonio’n rheolaidd i sicrhau ei bod wedi gwneud y gwaith angenrheidiol ac mae Samantha’n cymryd rhan mewn sgwrs Messenger gyda’r hyfforddeion eraill.

“Mae North Wales Training yn dda iawn am ein cefnogi o bell a’n cadw ni gyda’n gilydd ac mae hynny’n hwb i hyder pawb,” meddai Samantha. ““Fe wnaethon nhw fy helpu i gael swydd am gyfnod prawf yn y warws hefyd.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth

More News Articles

  —