
Dysgwyr yn y de-ddwyrain yn cael cefnogaeth â’u hyfforddiant yn ystod y cyfnod clo
Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru’n llwyddo i barhau â’u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.
Sefyllfa’r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau’r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu’n cael eu dal yn ôl oherwydd y cyfyngiadau symud.
Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad â phrentisiaid a hyfforddeion a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a’u Hyfforddeiaethau.
Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.
Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.
Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’u dysgwyr sy’n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi’i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol.
Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd grŵp i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i’w wneud gartref.
Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda’r sylw’n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i’r economi pan godir y cyfyngiadau symud.
Mae’r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i’r dysgwyr, ond i’r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella’u sgiliau a datblygu rhai newydd.
Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.
“Mae’n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu’n brysurach nag erioed ac maen nhw’n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,” meddai. “Mae’r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae’r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i’w diwrnod trwy beidio â gorfod teithio o le i le.
“Pan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio’n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny’n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau â’u prentisiaethau a’u hyfforddeiaethau.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.
“Ein nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar ôl y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu’n fwy cyfartal ledled Cymru – mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i’w chwarae yn hyn.
“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy’n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.”
Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu’n fawr ar bobl ifanc.
“Wrth i ni ailgychwyn ar ôl y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae’r NTfW a’i aelodau’n barod i gydweithio’n agos â’r Gweinidog a’i dîm i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.”
Un o’r darparwyr hyfforddiant sy’n manteisio i’r eithaf ar ddysgu digidol yw ALS Training o Gaerdydd sydd â 1,200 o ddysgwyr yn gweithio ar Brentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5 mewn rheoli cynhyrchu, adnoddau dynol, yswiriant a gwasanaethau ariannol, gweinyddu busnes, a iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r cwmni’n defnyddio Microsoft Teams i ddysgu ac i gyfathrebu ag aelodau o’r staff sy’n gweithio gartref.
“Y peth gorau i ni yn ystod y cyfnod clo yw bod dysgwyr, cyflogwyr a staff wrth eu bodd yn defnyddio dulliau digidol,” meddai Sarah John, cyfarwyddwr. “Mae’n newyddion da o ran dysgu cyfunol a bydd llawer iawn mwy y gallwn ei wneud ar lein yn y dyfodol.
“Roedd pawb yn y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith eisoes yn gweithio i ddatblygu dulliau digidol ond mae’r cyfyngiadau symud wedi cyflymu’r broses ac, erbyn hyn, mae’n fater o addasu i amgylchiadau gwahanol ac esblygu.
“Yn ogystal â dysgu pobl yn y gweithle, mae darparwyr hyfforddiant yn cynnig cefnogaeth i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru.”
Un o’r cyflogwyr y mae’r cwmni’n gweithio gyda nhw yw cwmni technoleg gwybodaeth Steer IT Solutions o Gaerdydd sydd â 12 o weithwyr, yn cynnwys dau brentis TG a gweinyddu busnes.
Yn ystod y cyfnod clo, mae ALS wedi trefnu cyfarfodydd digidol gyda’r ddau brentis trwy Microsoft Teams gan roi gwybod i Emily Steer, cyfarwyddwr, sut maent yn dod ymlaen.
“Mae’n bwysig iawn i’n cwmni ni bod momentwm yr hyfforddiant yn parhau yn ystod y cyfyngiadau,” meddai Emily, gan ganmol ALS Training am eu cefnogaeth. “Mae pob agwedd arall ar waith y cwmni wedi parhau fel arfer ac rydym yn awyddus i’n prentisiaid barhau i ddysgu hefyd.
“Rydyn ni’n cael cyfarfodydd Zoom bob bore a phob prynhawn i wneud yn siŵr bod y staff yn iawn ac rydyn ni’n dal i gynnal sesiynau hyfforddi i dimau.”
Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth
More News Articles
« Cefnogaeth hyfforddwyr yn helpu dysgwyr y gogledd i oresgyn rhwystrau’r cyfnod clo — Darparwyr hyfforddiant yn helpu dysgwyr yng Nghymru i oresgyn rhwystrau’r cyfnod clo »