Darparwyr hyfforddiant yn helpu dysgwyr yng Nghymru i oresgyn rhwystrau’r cyfnod clo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae’r gefnogaeth a gaiff Graham Jones yn ei helpu i brysuro ymlaen â’i Brentisiaeth yn ystod y cyfnod clo oherwydd y pandemig.

Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru’n llwyddo i barhau â’u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud y Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.

Sefyllfa’r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau’r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu’n cael eu dal yn ôl oherwydd y cyfyngiadau symud.

Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad â phrentisiaid a hyfforddeion a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a’u Hyfforddeiaethau.

Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.

Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’u dysgwyr sy’n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi’i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol.

Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd grŵp i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i’w wneud gartref.

Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda’r sylw’n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i’r economi pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae’r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i’r dysgwyr, ond i’r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella’u sgiliau a datblygu rhai newydd.

Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

“Mae’n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu’n brysurach nag erioed ac maen nhw’n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,” meddai. “Mae’r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae’r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i’w diwrnod trwy beidio â gorfod teithio o le i le.

“Pan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio’n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny’n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau â’u prentisiaethau a’u hyfforddeiaethau.”

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru


 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.
 
“Ein nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar ôl y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu’n fwy cyfartal ledled Cymru – mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i’w chwarae yn hyn.
 
“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy’n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.”

Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu’n fawr ar bobl ifanc.

“Wrth i ni ailgychwyn ar ôl y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae’r NTfW a’i aelodau’n barod i gydweithio’n agos â’r Gweinidog a’i dîm i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.”

Arwyn Watkins, Hyfforddiant Cambrian

Ym marn Arwyn Watkins, OBE, rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, gallai’r cyfnod clo drawsnewid y busnes, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn.

“Mae’r pandemig yn gwneud i’r cwmni ailystyried ein ffordd o weithio, ein ffyrdd o gysylltu â dysgwyr a chydweithwyr, a’n ffordd o ddefnyddio technoleg gwybodaeth er mwyn gwneud llai o ddrwg i’r amgylchedd,” meddai.

“Yn y dyfodol, bydd yn ffôl gofyn i bobl deithio o bob rhan o Gymru i bob cyfarfod tîm pan ellir eu cynnal trwy gyswllt fideo. Bydd argyfwng y coronafeirws yn dysgu llawer i ni amdanon ni’n hunain ac am y doniau cudd sydd gennym yn y busnes.”

Mae un o brentisiaid y cwmni, Graham Jones, 36 oed, o Landrindod, sydd ar y rhestr warchod am 12 wythnos oherwydd problem â’i system anadlu, yn defnyddio’r cyfnod i brysuro ymlaen â’i Brentisiaeth mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, ac mae wedi cwblhau 84% ohoni mewn dim ond naw wythnos.

Mae Jay Syrett-Judd, swyddog hyfforddi Graham, yn ei helpu i ddefnyddio system e-bortffolio Learning Assistant gan City & Guilds a meddalwedd cyfathrebu Google Hangouts ar gyfer sgyrsiau wyneb yn wyneb. Felly gall Jay gefnogi Graham ac adolygu’r dystiolaeth ar gyfer portffoliio ei brentisiaeth.

Gyrrwr a llwythwr gyda thîm gwastraff ac ailgylchu Cyngor Sir Powys yn Rhaeadr Gwy yw Graham. Llwyddodd i gwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) saith mis yn gynnar, ar 26 Chwefror, a chychwyn y Brentisiaeth ar 3 Mawrth.

“Pan ges i wybod mod i ar y rhestr warchod ac na allwn i fynd i’r gwaith, fe gysylltais â Jay a gofyn iddo anfon y gwaith roedd angen i mi ei wneud ar gyfer Lefel 3,” meddai Graham.

“Soniodd Jay am y Learning Assistant ac rwy’n dilyn yr holl waith cwrs yno. Os bydd gen i gwestiwn, rwy’n ffonio Jay neu’n siarad ag ef trwy Google Hangouts ac mae Jay’n esbonio’r peth i mi.

“Dydw i ddim yn dda iawn ar gyfrifiaduron ond mae Learning Assistant yn wych ac yn hawdd ei ddilyn. Gan fy mod i’n weithiwr rheng flaen, nid mewn swyddfa rwy’n gweithio a, gan amlaf, does gen i ddim llawer o amser ar fy nwylo. Oherwydd y cyfyngiadau, rwy’n gallu gwneud gwaith cwrs ar y cyfrifiadur bob bore ac mae Jay yn ei asesu.”

Doedd dim disgwyl iddo gwblhau’r cymhwyster tan fis Medi yn wreiddiol ond mae’n disgwyl ei orffen yn fuan ar ôl codi’r cyfyngiadau. Hoffai symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch, os bydd ei gyflogwr yn fodlon, er mwyn gallu cael swydd well.”

Dywedodd Jay ei fod yn siarad bob dydd â Graham oedd wedi gorffen elfen ‘tystysgrif dechnegol’ y Brentisiaeth ac wedi dechrau gweithio ar y ddiploma.

“Mae Graham bob amser yn gwneud mwy nag sydd raid ac mae’n gwneud ei waith ymchwil ei hunan,” meddai. “Mae’n ddysgwr sydd wir yn elwa ar yr hyn y mae’n ei ddysgu.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth

More News Articles

  —