Dysgu Proffesiynol yw unrhyw beth sy’n ymestyn eich gwybodaeth, yn datblygu eich sgiliau neu’n newid eich agwedd. Mae’n helpu sicrhau bod eich arfer yn defnyddio’r darganfyddiadau a’r technegau diweddaraf, gan sicrhau eich bod chi – a’ch dysgwyr! – yn cyflawni’ch llawn botensial. Mae eich profiadau dysgu proffesiynol yn ymwneud yn benodol â’ch gyrfa, ac yn helpu i chi fod yn ymarferwr gwell. Pan fyddwch yn meddwl am ddysgu proffesiynol, gallech feddwl am ddatblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant neu HMS, ond nid oes angen iddo fod yn unrhyw beth mor ffurfiol; bydd llawer o brofiadau anffurfiol bob dydd yn effeithio ar eich arfer hefyd.
Tystiolaeth a Myfyrio
Mae eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn offeryn pwerus i’ch helpu i strwythuro eich dysgu proffesiynol. Llwythwch dystiolaeth o’ch profiadau, wedyn cymerwch amser i fyfyrio. Beth aeth yn dda? Beth wnaeth ddim gweithio cystal? A ydych chi wedi dysgu unrhyw beth? Pa newidiadau fyddwch chi’n eu gwneud wrth fynd yn eich blaen? Os yw hyn yn rhywbeth nad ydych chi wedi ei wneud erioed o’r blaen, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o dempledi syml yn eich PDP i’ch tywys trwy’r broses.
Mae’n bwysig cofio myfyrio ar brofiadau negyddol yn ogystal â rhai cadarnhaol – gallwch chi ddysgu llawer o sefyllfa lle nad yw pethau’n mynd fel y dylent. Mae eich PDP yn perthyn i chi fel unigolyn, felly bydd neb arall yn gweld eich myfyrdodau, oni bai eich bod yn dewis eu rhannu.
Rhai Enghreifftiau o Ddysgu Proffesiynol
Gall pob mathau o bethau fod yn gyfleoedd dysgu proffesiynol gwych. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:
Cysgodi yn y gwaith
Cydweithio â chydweithwyr
Hyfforddi neu fentora
Ymchwil weithredu
Darllen neu ymchwil broffesiynol
Dysgu ar-lein neu flogiau
Dysgu am addysgeg
Hunanwerthuso a myfyrio
Cyrsiau achrededig perthnasol
Cymwysterau meistr
Arsylwi cymheiriaid
Deialog broffesiynol â chydweithwyr, dysgwyr neu hyd yn oed rieni!
Gall bod yn fyfyriol eich gwneud yn ymarferwr gwell, ar yr amod fod eich myfyrdod yn arwain at weithredu. Efallai fod angen i chi newid eich arfer, neu efallai fod angen i chi ystyried cael hyfforddiant pellach; beth bynnag sydd ei angen ar gyfer eich datblygiad proffesiynol. Yn y pen draw, nid chi yn unig fydd yn elwa, bydd eich dysgwyr yn elwa hefyd.