Datblygiadau Newydd Cyffrous mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog Ôl-16

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

 

Strategaeth Newydd
Yn ddiweddar, lansiodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei Strategaeth o’r enw ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr – Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaeth cyfrwng Cymraeg ‘. Gweledigaeth y strategaeth hon yw galluogi POB dysgwyr i gynnal neu ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg; ac i gyflawni hyn, mae camau ar waith i ddatblygu 6 maes allweddol: Dysgwyr; Staff; Darpariaeth; Adnoddau; Cymwysterau; a Chyflogwyr.

Mae’r cynllun gweithredu pum i ddeng mlynedd hwn yn feiddgar ac uchelgeisiol; lle mae NTfW yn falch o gyhoeddi ei fod wedi’i enwi yn y cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod, sy’n anelu at weithio’n gadarnhaol tuag at sector addysg ôl-16 cydlynus a chydlynol sy’n cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth, adnoddau, ac yn edrych i ddatblygu ei staff a’i ddarpariaeth mewn unsain.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

More News Articles

  —