Chwilio am ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu disgleiriaf Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae ymdrech wedi’i lansio i chwilio am ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o wahanol raglenni sgiliau ledled Cymru.

Mae’r trefnwyr, Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gwahodd ceisiadau am Wobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Mae’r Gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau.

Mae’r trefnwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant ac wedi dangos blaengarwch, menter, dyfeisgarwch, creadigrwydd ac ymroddiad i wella gwaith datblygu sgiliau yng Nghymru.

Ariannir y Gwobrau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a chgânt eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Eleni, mae 12 gwobr, yn cynnwys dwy mewn dosbarth newydd ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith: asesydd y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith a thiwtor y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r dosbarth hwn yn cydnabod ymroddiad, egni a brwdfrydedd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a’r rhan allweddol y maent yn ei chwarae yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau’r gweithle ac i lwyddo yn eu gyrfa a goresgyn rhwystrau oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen yn eu haddysg neu eu gwaith.

Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer dysgwr y flwyddyn (ymgysylltu) a dysgwr y flwyddyn (lefel un) ac, yn y dosbarth Twf Swyddi Cymru, mae gwobr ar gyfer cyflawnydd eithriadol y flwyddyn.

Rhoddir sylw arbennig i Brentisiaethau gyda gwobrau unigol ar gyfer prentis sylfaen, prentis a phrentis uwch y flwyddyn.

Bydd busnesau bach a mawr, ledled Cymru’n cael cyfle i ddod i sylw cenedlaethol gyda gwobrau ar gyfer cyflogwr bychan (1 – 49 o weithwyr), cyflogwr canolig (50 – 249 o weithwyr), cyflogwr mawr (250 – 4,999 o weithwyr) a macro-gyflogwr y flwyddyn (5,000+ o weithwyr). Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan NTFW www.ntfw.org/wel ac mae angen eu cyflwyno erbyn hanner dydd ar 24 Mehefin.

Ymhlith yr enillwyr y llynedd roedd Mitel, o Gil-y-coed, sy’n arbenigo mewn cyfathrebu ym myd busnes, a meddalwedd a gwasanaethau cydweithredu. Nhw enillodd wobr cyflogwr mawr y flwyddyn ac mae Cenydd Burden, cyfarwyddwr gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig, yn annog cyflogwyr ac unigolion eraill i gystadlu eleni.

“Mae’r prentisiaid, y rheolwyr sy’n rhedeg y rhaglen a’r holl weithwyr sy’n gysylltiedig mewn ffordd fach neu fawr, wedi dathlu ein llwyddiant yn ennill y wobr,” meddai. “Mae wedi rhoi hwb i’n hymdrechion i wneud y rhaglen hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.

“Trwy ennill y wobr, cawsom gadarnhad bod ein rhaglen ni yn Mitel yn cyrraedd safon uchel. Rydym yn cael boddhad mawr o weld pobl ifanc yn cyrraedd y busnes gydag ychydig iawn o sgiliau telathrebu, os o gwbl, ac, o fewn dwy flynedd, yn cymryd rhan mewn prosiectau mawr gyda’r cwmni.

“Ac mae’r boddhad gymaint yn fwy pan fydd y rheiny’n symud ymlaen yn gyflym i swyddi uwch gyda’r cwmni. Mae Mitel yn gweithio mewn marchnad sy’n datblygu’n barhaus ac mae ein technoleg yn newid o hyd. Mae ein prentisiaid yn rhoi golwg wahanol i ni ar dechnoleg a’r defnydd a wneir ohoni a bydd hyn yn talu ar ei ganfed i ni yn y dyfodol.”

Wrth lansio’r gwobrau yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau, aeth y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, ati i annog dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith i dynnu sylw at eu llwyddiannau.

“Mae Llywodraeth Cymru’n falch o gael dweud ei bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, gan ddatblygu pobl ifanc fedrus sy’n hanfodol ar gyfer ein heconomi,” meddai.

“Mae gennym brentisiaid, dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

Dywedodd Peter Rees, cadeirydd NTfW: “Mae’r gwobrau hyn yn arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol rhai sydd wedi dangos ymroddiad gwirioneddol i wella’u sgiliau er mwyn hybu economi Cymru.

“Mae mwy a mwy o gyflogwyr, yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, yn rhoi mwy o bwyslais ar dyfu eu pobl eu hunain trwy raglenni prentisiaethau gan eu bod yn gweld y manteision i’w busnesau.”

More News Articles

  —