Elliot yn dewis llwybr prentisiaeth yn hytrach na phrifysgol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Coleg Cymraeg – Elliot Wigfall

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Elliot Wigfall, sy’n wreiddiol o Ynysybwl ger Pontypridd, yn brentis trydanol gyda landlord cymdeithasol Trivallis yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae Elliot yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3 mewn gwaith trydanol gyda Choleg y Cymoedd. Mae e hefyd yn un o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y sector prentisiaethau. Ond pam wnaeth e ddewis gwneud prentisiaeth? Dyma ychydig o’i hanes

Pa bynciau wnes di yn yr ysgol ac ai hon ydy dy swydd gyntaf?

Nes i wneud Lefel A mewn Cemeg, Bioleg, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio yn  yr Ysgol  ac wedyn nes i fynd i Brifysgol y Drindod Dewi Sant i wneud gradd mewn Theatr Cerdd a’r Cyfryngau.

Ar ôl graddio, ges i fy swydd gyntaf gyda’r brifysgol yng Nghaerfyrddin fel swyddog marchnata ac ymgysylltu gyda’r gymuned.

Felly sut a phryd nes di benderfynu gwneud prentisiaeth i fod yn drydanwr?

Yn fy swydd gyda’r Brifysgol roeddwn i’n mynd o amgylch ysgolion a cholegau yn dweud wrth bobl ifanc ‘dewch i’r brifysgol, dewch i’r brifysgol’ ond nes i hefyd sylweddoli mai nid prifysgol ydy’r opsiwn gorau i bawb.

Nes i wedyn ddechrau meddwl amdana i fy hun, fy ngyrfa ac oeddwn i wir eisiau gwneud y swydd yna am fy oes.

Dyna pryd nes i ddechrau edrych ar brentisiaethau a gweld fod lot o waith datrys problemau, sy’n fy siwtio i, fel trydanwr. Ti’n gwneud mathemateg a gwyddoniaeth am reswm – nid dim ond i basio arholiad – a dysgu sut mae’n berthnasol i fywyd go iawn.

A beth ydy’r peth gorau am dy swydd di nawr?

Dwi allan yn dysgu sut i wneud fy swydd wrth fy ngwaith ac mae pob un diwrnod yn wahanol.

Hyd yn oed os yw’r dasg yr un peth, mae elfennau gwahanol bob tro – falle fod y cables yn rhedeg mewn ffordd wahanol, falle fod na rhywbeth ar ffordd, falle fod y tŷ yn llanast…a ti’n gorfod delio gyda hyn a datrys y broblem.

Mi wyt ti’n llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – pa wahaniaeth mae’r Gymraeg yn ei wneud i ti yn dy swydd fel trydanwr?

Os wyt ti’n siarad Cymraeg, mae cael y person sy’n dod i drwsio dy gawod neu dy olau hefyd yn siarad Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth – yn enwedig yn yr ardal yma lle does na ddim llawer o bobl yn gallu ei siarad hi.

Mae’n rhoi cyfle i bobl siarad yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus gyda hi.

Beth fyddai dy gyngor i rhywun sy’n meddwl gwneud prentisiaeth?

Os nad ydych chi’n mwynhau dysgu yn y ffordd draddodiadol, mae prentisiaeth yn cynnig rhywbeth gwahanol. Er fod un diwrnod yn y coleg yn dysgu theori, mi ydw i gweddill yr amser yn dysgu sgiliau ymarferol wrth fy ngwaith.

Mae’n ffordd dda o ddysgu a chael cymwysterau, tra hefyd yn cael cyflog.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —