Myfyriwr paratoi bwyd o’r Drenewydd yn cael blas ar lwyddiant mewn Cystadleuaeth Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

Gavin Hardman

Gavin Hardman

Mae dyn ifanc 28 oed o’r Drenewydd wedi ennill medal aur yn rownd derfynol lefel sylfaenol paratoi bwyd mewn cystadleuaeth sgiliau genedlaethol.

Cyfres o ddigwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu Cymreig tra medrus ar gyfer y dyfodol.

Wrth i athletwyr Olympaidd hyfforddi’n galed ar gyfer y gemau sydd ar y gorwel yn Rio, mae Gavin Hardman yn un o 78 o bobl ifanc o Gymru sydd wedi bod yn hogi’u sgiliau mewn ymgais i ennill medal. Mewn galwedigaethau amrywiol, o ddylunio graffig i waith patisserie, efallai y bydd yr egin bencampwyr medrus hyn yn mynd yn eu blaenau i herio cystadleuwyr o wledydd eraill, yn yr un modd â chystadleuwyr Olympaidd.

Bu Gavin, o Gampws y Drenewydd Grŵp NPTC, yn cystadlu yn erbyn 13 o fyfyrwyr eraill o bob cwr o Gymru. Roedd disgwyl i gystadleuwyr y rownd derfynol gwblhau cyfres o heriau paratoi bwyd mewn 90 munud – gan gynnwys paratoi te p’nawn i un er mwyn profi sgiliau iechyd a diogelwch, hylendid, sgiliau defnyddio cyllyll, defnyddio cyfarpar, gwybodaeth am gyfuno blasau a chyflwyniad. Dywedodd Gavin, sy’n astudio cwrs lefel 2 mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol, ei fod wrth ei fodd o ennill.

“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl ennill. Roedd mynd trwy’r sesiynau rhagbrofol yn dipyn o gamp ynddo’i hun, felly roedd ennill y fedal aur yn erbyn cymaint o gystadleuwyr eraill yn brofiad arbennig. Mae gen i ddiddordeb mewn coginio ers tro, a phenderfynais ddilyn modiwl paratoi bwyd er mwyn pobi’n well gartre.

“Fe wnes i ymarfer gwneud te p’nawn tipyn o weithiau, felly mae fy nhiwtoriaid a ’mhartner wedi cael digon o de a chacen i bara am byth! Dw i’n falch fod fy nhiwtor wedi fy annog i gystadlu – mae wir wedi sbarduno fy niddordeb mewn coginio, ac rwyf am ddilyn cwrs coginio arall y flwyddyn nesaf.”

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n rhan o Raglen Twf a Swyddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol, gyda’r nod o roi hwb i alluoedd sgiliau a ffyniant Cymru’n gyffredinol.

Caiff ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, a’i chynnal gan rwydwaith o golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Bydd cyfanswm o 33 o Gystadlaethau Sgiliau lleol yn cael eu cynnal rhwng mis Chwefror a mis Ebrill, mewn amrywiaeth o sectorau o wyddor fforensig a gwaith mecanig ceir i ddylunio gwefannau a chelfyddyd ewinedd.

Gallai Gavin fynd ymlaen i gynrychioli Grŵp NPTC yn rownd paratoi bwyd WorldSkills y DU, gyda’r nod o gynrychioli Tîm Cymru yn y Sioe Sgiliau eleni yn Birmingham ym mis Tachwedd.

Meddai Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg:

“Mae lefel y doniau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru’n gwella’n gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn annog cystadleuaeth iach ac yn ffordd wych o gydnabod doniau gwych y genedl.

“Mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sector Sgiliau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith o Fôn i Fynwy yn rhan o fenter Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn barod, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr at drefnu’r gwahanol rowndiau yn cynnwys y rownd derfynol, ond rydym yn awyddus i weld mwy o fusnesau yng Nghymru yn cefnogi eu gweithwyr ifanc dawnus ac yn eu hannog i gystadlu.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae angen cryn dipyn o waith caled i gyrraedd y rownd derfynol, ond mae ennill yr aur yn dipyn o gamp. Mae’n amlwg bod yr holl gystadleuwyr yn gwbl benderfynol ac awyddus tu hwnt i gyrraedd y brig yng Nghymru.

“Dymunwn bob llwyddiant i Gavin yn ei astudiaethau yn y dyfodol.”

More News Articles

  —