ColegauCymru a NTfW yn cyhoeddi trefniadau cydweithio

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae ColegauCymru / CollegesWales a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi cyhoeddi trefniadau cydweithio ar faterion cyhoeddus, ac maen nhw’n trafod y manteision posibl o ddod at ei gilydd fel un corff cynrychioliadol ar gyfer y sector addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yng Nghymru.

Mae’r ddau sefydliad wrthi’n trafod ymarferoldeb sefydlu un sefydliad. Mae disgwyl iddynt wneud penderfyniad, trwy ymgynghori’n llawn gydag aelodau priodol y ddau sefydliad yn yr haf 2016. Sefydlwyd Bwrdd Prosiect i archwilio’r materion a’r prosesau sydd ynghlwm â dod â’r ddau sefydliad dan yr un enw.

Yn y cyfamser, mae’r ddau sefydliad wedi cytuno cydweithio i ddylanwadu ar y polisi strategol ar addysg a hyfforddiant ôl-16, a byddant yn cyd-gynrychioli’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 yng nghynadleddau gwanwyn y pleidiau gwleidyddol.

Dywedodd Judith Evans, Cadeirydd ColegauCymru: “Ein nod, y flwyddyn nesaf, yw y bydd un sefydliad yn darparu llais cryf a chydlynol i’r sector addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yng Nghymru. Y sefydliad hwn fydd y man cyswllt cyntaf i Lywodraeth Cymru ac i asiantaethau eraill ar ddatblygu a gweithredu polisïau.

Dywedodd Peter Rees, Cadeirydd Bwrdd Rheoli NTfW: “Mae’r ddau sefydliad yn ceisio sefydlu corff pwerus a chynaliadwy a fydd yn effeithlon ac yn effeithiol wrth ddylanwadu ar y fframwaith strategol, gan hyrwyddo arfer da a mentrau, a chyflwyno sector addysg a hyfforddiant ôl-16 cryfach i Gymru yn y pen draw”.

More News Articles

  —