Partneriaeth arloesol yng Nghanolbarth Cymru am leihau’r bwlch sgiliau ym maes peirianneg
Yng Nghanolbarth Cymru sefydlwyd partneriaeth unigryw i gynhyrchu’r to nesaf o beirianwyr ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg sydd wedi dioddef oherwydd prinder sgiliau yn y maes.
Mae un ar ddeg o brentisiaid a chwech o gyflogwyr wedi cytuno i lansio prentisiaeth sylfaen mewn rhaglen peirianneg, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Mae’r prentisiaethau yn deillio o bartneriaeth rhwng Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG), Grŵp NPTC a Gwasanaethau Hyfforddi Myrick, Trefaldwyn, sy’n aelod o Bartneriaeth Coleg Cambria. Maent wedi ymrwymo i gynnig cyfrwng i bobl ifanc allu symud at yrfa werth chweil ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.
Wrth gynnal arolwg ymysg ei aelodau, dysgodd MWMG fod prinder peirianwyr cymwys yng Nghanolbarth Cymru yn effeithio ar berfformiad busnesau ac yn cyfyngu ar eu gallu i ehangu a datblygu.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae MWMG wedi meithrin diddordeb mewn gweithgynhyrchu trwy gynnig cyfle i bobl ifanc ymweld â chwmnïau a chymryd rhan mewn heriau ym maes peirianneg, gyda chefnogaeth SEMTA. Ond ychydig iawn o gyfleoedd hyfforddi a gwaith oedd ar gael i bobl ifanc.
Bellach, diolch i waith y tri phartner, mae chwe chwmni – Contact Attachments, Makefast, Polyco a Quality Pipe Supports o’r Drenewydd, Dawson Shanahan yn y Trallwng a Rheilffordd Cwm Rheidol, Aberystwyth – wedi ymrwymo i gyflogi 11 o brentisiaethau sylfaen.
Bydd y prentisiaid ar y cynllun yn mynychu cwrs Lefel 2 yng Ngholeg NPTC Y Drenewydd dridiau’r wythnos, ac yn treulio dau ddiwrnod gyda’u cyflogwr.
“Mae’r chwe chyflogwr yma wedi ymrwymo i chwarae rhan ragweithiol o ran bodloni gofynion hyfforddi sylfaenol ym maes peirianneg,” meddai Brian Dunlop, o gwmni Myrick. “Yn ogystal â derbyn hyfforddiant yn y coleg, bydd y prentisiaid hefyd yn cael blas ar weithio mewn amgylchfyd gweithgynhyrchu.
“Mae’n golygu fod y bobl ifanc, sy’n cael eu talu a’u noddi gan y cwmnïau yn ystod y cyfnod hyfforddi, yn ymrwymo i’r cynllun; maent yn gwybod y bydd yn datblygu’n brentisiaeth Lefel 3. Mae’r brentisiaeth peirianneg yn gyfrwng i symud ymlaen hefyd at addysg uwch, yn lle gorfod mynd i’r brifysgol.”
Eglurodd Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol Grŵp Colegau NPTC (Sgiliau):
“Mae prentisiaeth yn ffordd wych o ddatblygu’r aelodau tîm hollbwysig sydd ei angen ar gyflogwyr. Maent yn gallu cefnogi busnes i feithrin gweithlu mwy galluog, brwdfrydig ac ymatebol, sy’n meddu ar y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar y busnes.
Ond nid dyna’r unig fanteision. Bydd cynhyrchedd yn gwella wrthi bobl wneud eu gwaith yn well, bydd hwb i hwyliau’r gweithwyr, a bydd nifer y staff newydd yn lleihau trwy gynnig hyfforddiant effeithiol, ynghyd â chyfle i ddatblygu eu gyrfa. A bydd busnesau’n elwa hefyd – bydd gan gwsmeriaid mwy o hyder wrth weld staff yn ennill cymwysterau a safonau cydnabyddedig.
Ychwanegodd:
Partneriaeth unigryw yw hon, sy’n cyfuno cryfderau’r tri sefydliad a chyflogwyr i wella’r cyfleoedd ym maes hyfforddiant a gwaith i beirianwyr ifanc Canolbarth Cymru.
Os gallwn ddangos llwyddiant y rhaglen eleni, rhagwelir y bydd mwy o gwmnïau peirianneg a gweithgynhyrchu yn cymryd rhan yn y cynllun y flwyddyn nesaf. Felly, byddwn yn chwilio am fwy o bobl ifanc i fanteisio ar y cyfle gwych hwn.”
Dylai unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu cysylltu â Susan Roberts yng nghampws Coleg NPTC yn Y Drenewydd drwy ffonio: 0845 4086266 am fwy o fanylion.
More News Articles
« Darparwyr hyfforddiant yn croesawu adduned Plaid Cymru i greu 50,000 o brentisiaethau newydd — ColegauCymru a NTfW yn cyhoeddi trefniadau cydweithio »