Cyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru’n cael eu hannog i gynnig am Wobrau VQ
Mae entrepreneur llwyddiannus a sefydlodd bedair meithrinfa i blant yn Ne Cymru’n annog dysgwyr a chyflogwyr ar draws y wlad i gynnig am y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, a lansiodd heddiw (2 Mawrth).
Roedd 2015 yn flwyddyn i’w chofio i Jenine Gill, cyfarwyddwr Little Inspirations yn Llantrisant. Cafodd ei henwi’n Gyflogwr VQ y Flwyddyn. Bu i’w chwmni hefyd ennill gwobr Busnes Gwasanaeth Gorau yn Rhondda Cynon Taf a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Ers iddi ennill Gwobr VQ haf diwethaf, mae hi wedi sicrhau contract Dechrau’n Deg i agor ei phedwaredd feithrinfa, a honno yn y Barri, gan greu chwe swydd newydd. Mae’r busnes cyfan yn parhau i dyfu, gan fod ganddi bellach weithlu hyfforddedig o 66 o bobl yn gofalu am hyd at 160 o blant y dydd.
“Mae’r busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rwy’n siŵr fod y Wobr VQ wedi ein helpu i ennill contract Dechrau’n Deg,” meddai Jenine. “Rydym yn sicr wedi denu cleientiaid newydd o ganlyniad i’r wobr.”
Wrth annog cyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru i wneud cais am y gwobrau eleni, meddai: “Does gennych chi ddim byd i’w golli a phopeth i’w hennill. Mae’n gyfle i gael rhywfaint o werthfawrogiad a chydnabyddiaeth am y gwaith caled rydych chi’n ei wneud.
“Os ydy eich cwmni’n buddsoddi mewn pobl ac yn darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf, da chi, anfonwch eich enwebiad. Os ydych chi’n ddysgwr a bod gennych stori ysbrydoledig i’w dweud am eich taith ddysgu sydd wedi esgor ar lwyddiant, yna mae’r gwobrau hyn yn addas ar eich cyfer.”
Mae gan Little Inspirations, a sefydlwyd 14 o flynyddoedd yn ôl, feithrinfeydd plant yn Llantrisant, Rhydyfelin a’r Barri. Cydnabuwyd y cwmni yn Fuddsoddwr mewn Pobl, yn ganolfan dysgu gydol oes ac mae meithrinfa Llantrisant wedi’i hadnabod yn un blaenllaw yn y sector gan Estyn.
Mae Jenine, sy’n ddyslecsig ac a adawodd yr ysgol gydag ychydig iawn o gymwysterau TGAU, yn teimlo’n angerddol ynghylch dysgu galwedigaethol fel llwybr i fodloni gwir botensial ei staff i ddarparu’r safon ofal uchaf i’r plant sy’n mynychu’r meithrinfeydd. Mae pob aelod o staff naill ai wedi cwblhau neu’n cymryd rhan mewn Prentisiaeth.
Trefnir Gwobrau VQ gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a CholegauCymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Rhennir gwobrau eleni’n dri chategori – cyflogwr y flwyddyn, dysgwr canolradd y flwyddyn a dysgwr lefel uwch y flwyddyn. Mae’r wobr ganolradd ar gyfer dysgwyr gyda chymwysterau hyd at lefel tri, ac mae’r wobr uwch ar gyfer cymwysterau o lefel pedwar ac i fyny.
Mae Gwobrau’r Dysgwyr yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos dilyniant a rhagoriaeth glir mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes. Canolbwyntia Gwobr y Cyflogwr ar gyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy’n gwneud gwir gyfraniad at wella sgiliau a chystadleugarwch cenedlaethol.
Mae’r gwobrau sydd bellach yn eu 9fed blwyddyn yn olynol, yn cyd-daro â Diwrnod VQ ar 8 Mehefin, sef dathliad o gymwysterau galwedigaethol i fyfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.
Mae’r dyddiad cau i gyflwyno enwebiadau ar 22 Ebrill. Bydd tri yn cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori – a gyhoeddir ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar noson 7 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant (St David’s Hotel), Caerdydd, y diwrnod cyn Diwrnod VQ. I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i vqday.cymru
Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich proffesiwn dethol.
“Defnyddir rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol ar gyfer staff er mwyn eu galluogi i ddilyn llwybr dysgu i ddiwallu anghenion cwmnïau, cwsmeriaid ac unigolion. Mae gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu’r cyflogwyr a’r dysgwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn mynd ymhellach o ran datblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
“Rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru’n cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn ar gyfer llwyddiant er mwyn darparu gweithlu o safon fyd-eang i Gymru er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu.”
Anogir darparwyr dysgu ledled Cymru i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ ac ymgysylltu gyda dysgwyr o bob oedran. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod cyn bwysiced i’r economi ac i’r unigolyn, oherwydd maen nhw’n cyflawni’r gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i lwyddo ym myd addysg a gwaith.
More News Articles
« ColegauCymru a NTfW yn cyhoeddi trefniadau cydweithio — Datblygwr gwefannau talentog yn annog eraill i gystadlu yn WorldSkills y DU »