Cory – gwerthwr gwelyau yn ennill buddugoliaeth mewn gwobrau cenedlaethol i ddysgwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

Cory Rowlands proud to win the award.

Cory Rowlands – yn falch iawn o ennill gwobr.

Anrhydeddwyd dyn ifanc yn ei arddegau sy’n datblygu gyrfa fel gwerthwr gwelyau yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2015 nos Iau – er gwaethaf iddo adael yr ysgol heb lawer o gymwysterau.

Cafodd Cory Rowlands, 18 oed o’r Barri, ei enwi’n Ddysgwr y Flwyddyn ar gyfer Hyfforddeiaeth Lefel Un yn y seremoni wobrwyo uchel ei phroffil a gynhaliwyd yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd. Nid oedd wedi gallu mynd i’r seremoni oherwydd salwch yn y teulu. Felly yn ei absenoldeb, roedd Katie Wallar a Matt Harper, rheolwyr ar gyfer ei ddarparwr hyfforddiant, ACT Limited, a gasglodd ei wobr, gan ganmol ei waith caled.

Roedd yn siom fawr iddo golli’r seremoni wobrwyo. Dywedodd Cory iddo gael sioc pan glywodd ei fod wedi ennill y wobr. “Fedrwn i ddweud dim achos doeddwn i ddim yn ei disgwyl,” meddai. “Mae’r wobr yn golygu llawer imi oherwydd imi weithio’n galed gydag ACT i gael y swydd hon, ac rwy wrth fy modd yn gwneud y gwaith. Mae fy nghyflogwr yn falch iawn ohono i.

“Rwy wedi datblygu cymaint gyda chymorth ACT. Rwy nawr yn benderfynol o ddangos i’m cyflogwr iddo wneud y dewis cywir.”

Ar ôl blwyddyn yn gweithio gyda ACT Limited, mae Cory yn datblygu ei yrfa yng nghwmni Cardiff Bed Store. Cafodd profiad gwaith gyda’r cwmni, ac mae wedi datblygu i fod yn werthwr amser llawn i’r cwmni teuluol.

Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheini sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, arloesedd a’r gallu i fod yn greadigol, yn ogystal ag ymrwyniad i ddatblygu sgiliau er lles economi Cymru.

Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd materion personol yn golygu bod Cory wedi gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, ond datblygodd yn ystod ei gyfnod gydag ACT Limited, gan gwblhau Hyfforddeiaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel Un, ynghyd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol eraill.

Sylwodd ACT Limited ar ei sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych, ond roedd yn rhaid iddo weithio’n galed i ddatblygu ei sgiliau Cymhwyso Rhif, rhan hanfodol o weithio ym maes manwerthu.

Agwedd gadarnhaol Cory a arweiniodd Dennis Maunder, perchennog Cardiff Bed Store, at roi swydd amser llawn i Cory. “Mae Cory yn fachgen gweithgar, prydlon, dibynadwy a chwrtais ac mae’n gwerthu ein holl gynnyrch yn hyderus,” meddai.

“Mae rhoi swydd i rywun mor ifanc heb lawer o brofiad yn gallu bod yn risg, ond mae’n gwneud gwaith gwych.”

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac i’r rheiny a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae’r gwobrau hyn yn llwyfan perffaith inni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau.

“Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Rydyn ni’n falch ein bod ni’n cynnal un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, sydd â chyfraddau llwyddiant yng Nghymru sy’n parhau i fod yn uwch nag 80 y cant.” Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi.”

More News Articles

  —