Llwyddiant i Gymru yn rownd derfynol WorldSkills y DU

Postiwyd ar gan karen.smith

Deputy Minister Julie James with Bruno Forkuoh from Coleg Sir Gar

Julie James AC gyda Bruno Forkuoh, Coleg Sir Gar

Mae deg person ifanc – gan gynnwys brawd a chwaer o Lanelli – wedi cael eu henwi gyda goreuon y DU yn rownd derfynol o gystadleuaeth sgiliau Prydain gyfan.

Enillodd Bruno Forkuoh, 23, ac Elizabeth Forkuoh, 19, o Lanelli fedalau aur yn eu categorïau priodol yn ffeinal WorldSkills y DU, a gynhaliwyd yn y Sioe Sgiliau o fri ym Mirmingham rhwng 19 a 21 Tachwedd.

Bu Elizabeth, a enillodd y fedal aur yng Ngwasanaeth Bwytai, a Bruno, a enillodd fedal aur yng nghategori Her Grŵp Gweithgynhyrchu, ymysg y 45 o gystadleuwyr Cymraeg a enillodd cyfanswm o 10 Aur, 7 Arian, 12 Efydd ac 16 o Fedalau Rhagoriaeth, cyflawniad record ar gyfer Cymru.

Elizabeth Forkuoh, Coleg Sir Gar

Elizabeth Forkuoh, Coleg Sir Gar

Cynhaliwyd proses dewis a dethol ar gyfer Carfan y DU hefyd yn ystod y Sioe Sgiliau eleni, a chafodd 20 o gystadleuwyr o Gymru – gan gynnwys Bruno ac Elizabeth – eu henwi’n aelodau o garfan o 153 y gall cynrychioli’r DU yn achlysur WorldSkills Abu Dhabi 2017.

Mae cystadlaethau WorldSkills y DU yn ysbrydoli pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol wrth ddefnyddio’u sgiliau ar y lefel uchaf, a dyma uchafbwynt y Sioe Sgiliau. Yn ystod y ffeinal yng nghanolfan yr NEC, fe wnaeth dros 650 o brentisiaid, gweithwyr cyflogedig a dysgwyr mwyaf dawnus y DU gymryd rhan mewn 40 a mwy o gystadlaethau yn eu sgiliau dewisol, o waith plymio a choginio i osod blodau a chynllunio’r we.

Cafodd y bobl ifanc gyfle i ddangos eu gallu a’u doniau mewn cyfres o arddangosiadau dwys a barodd dros 20 awr.
Er mwyn ennill eu lle yn rownd derfynol WorldSkills y DU, roedd pob dysgwr yn gorfod cystadlu yn erbyn cyfoedion o sefydliadau ledled y DU trwy gyfres o ornestau rhanbarthol yn gyntaf.

Eleni, gwelwyd y criw mwyaf erioed o Gymru yn y Sioe Sgiliau, gyda chyfanswm o 82 o bobl ifanc wedi’u dewis i gynrychioli’u gwlad – y garfan ranbarthol uchaf o blith 650 o gystadleuwyr i gyd.
Aeth Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’r Sioe Sgiliau eleni, ac meddai wrth gyfeirio at lwyddiant y Cymry:

“Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i fynychu’r Sioe Sgiliau a gweld llwyddiant y Cymry yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU â’m llygaid fy hun.

“Mae mwy nag erioed o ddysgwyr, prentisiaid a gweithwyr cyflogedig wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol eleni, sy’n dipyn o gamp ynddo’i hun, ond mae’r ffaith fod y tîm wedi dod â chymaint o fedalau nôl adref a chymaint o unigolion wedi’u dewis i ymuno â charfan y DU yn gydnabyddiaeth o’u gwaith caled, eu doniau a’u dyfalbarhad.”

Cymerodd chwech o’r enillwyr Cymraeg rhan yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol a sefydlwyd gan Natspec (Y Gymdeithas ar gyfer Colegau Arbenigol Cenedlaethol) sy’n galluogi i bobl anabl ifanc, neu gydag anhawster dysgu gymryd rhan mewn digwyddiadau fel y Sioe Sgiliau.

Mwynhaodd colegau unigol ar draws Cymru lwyddiant hefyd gyda myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn ennill pum fedal aur a dysgwyr o Goleg Cambria yn ennill dwy fedal aur. Bu Coleg Sir Gâr hefyd yn lwyddiannus wrth i chwech o’i fyfyrwyr gael eu dewis ar gyfer Carfan y DU, y mwyaf o unrhyw goleg Cymraeg.

Llongyfarchodd Barry Liles, Hyrwyddwyr Sgiliau Cymru, y cystadleuwyr o Gymru am eu llwyddiant:
“Mae’r ffaith fod ein pobl ifanc yn gallu cystadlu yn erbyn goreuon y DU, a’u curo nhw – heb sôn am oreuon y byd – yn brawf o’r lefel anhygoel o sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru. Y llynedd, llwyddodd pedwar o Gymry ifanc i fynd trwy rengoedd WorldSkills a theithio i Sao Paolo, Brasil, ar gyfer rownd derfynol y byd.

“Rwy’n gobeithio y bydd llwyddiant y criw ifanc hyn yn eu sbarduno i ddatblygu fel gweithwyr cyflogedig hyfedr yn ogystal â darbwyllo pobl ifanc eraill o bwysigrwydd meithrin eu sgiliau eu hunain.”

Cynhelir WorldSkills International mewn dinasoedd ledled y byd, a hon yw’r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf o’i bath. Abu Dhabi fydd lleoliad cystadleuaeth WorldSkills nesaf yn 2017. Mae WorldSkills wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd gweithlu tra medrus, gyda’r nod o hybu sgiliau lefel uchaf yma yng Nghymru.

More News Articles

  —