Rhaglen brentisiaethau Babcock yn RAF y Fali, esiampl o gydweithio

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Babcock Aviation apprentices and officials at RAF Valley.

Prentisiaid a swyddogion Babcock Aviation yn RAF y Fali.

Mae tîm o brentisiaid yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau ymladd trwy gynnal a chadw y jetiau Hawk T2 sy’n hedfan yn RAF y Fali ar Ynys Môn.

Mae’r rhaglen brentisiaethau lwyddiannus a sefydlwyd gan fusnes Babcock Aviation yn RAF y Fali yn 2016 yn enghraifft wych o gydweithio.

Mae’r cwmni, sydd â gweithlu o fwy na 28,000 yn fyd-eang, yn gweithio’n agos gyda’r RAF, BAE Systems, Grŵp Llandrillo Menai, Hyfforddiant Hyfforddiant Arfon Dwyfor a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i ddarparu prentisiaethau sydd o fudd i Ogledd Cymru.

Mae Babcock Aviation wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, gwobrau uchel eu parch, a hynny yng nghategori Macro-Gyflogwr y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae 171 o brentisiaid wedi cwblhau eu hyfforddiant yn RAF y Fali gyda Babcock, ac mae 29 o weithwyr yn gweithio tuag at brentisiaethau ar hyn o bryd. Mae llawer o gyn-brentisiaid yn dal i weithio i’r cwmni, gan gynnwys nifer o beirianwyr benywaidd.

Mae Grŵp Llandrillo Menai a Hyfforddiant Arfon Dwyfor yn darparu prentisiaethau sy’n amrywio o Gynnal a Chadw Peirianneg Awyrofod, Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau a Rhedeg Warws a Storio i Weinyddu Busnes, Rheoli, Gwasanaeth Cwsmeriaid, a Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad o Lefelau 2 i 4.

Yn gwmni awyrofod ac amddiffyn blaenllaw, creodd Babcock ei raglen brentisiaethau i ddiwallu anghenion busnes, darparu cyfleoedd gyrfa, mynd i’r afael â bwlch mewn sgiliau peirianneg, a hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal.

Mae’r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar y sector peirianneg a chymuned Ynys Môn drwy fynd i’r afael â diweithdra ymhlith ieuenctid, stereoteipio ar sail rhyw, a rhwystrau sy’n wynebu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Babcock yn darparu profiad dysgu cynhwysfawr sy’n paratoi prentisiaid ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.

“Trwy ymgorffori arbenigedd diwydiant, technoleg a chymorth mentora, rydym yn arfogi ein prentisiaid â’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i ragori yn y gyrfaoedd a ddewisant,” meddai Bethan McCrohan, goruchwyliwr prentisiaid Babcock a phrif gydlynydd hyfforddiant RAF y Fali. “Mae’r rhaglen yn cyfrannu at weithlu medrus, amrywiol a chynhwysol, sydd o fudd i’r sector a’r gymuned.”

Dywedodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol a Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai: “Mae Babcock yn cydweithio â darparwyr addysg a hyfforddiant, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, partneriaid yn y diwydiant a rhanddeiliaid eraill i wella ansawdd ac effaith ei raglen brentisiaethau.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Babcock a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru, yn ein hysbrydoli. Dw i’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a phartner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw ar drywydd anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —