Cwmni awyrofod o’r Gogledd yn codi i’r entrychion trwy ennill gwobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Mark Preston (dde), rheolwr gweithrediadau’r Rhaglen Brentisiaethau yn Airbus, gyda Gary Griffiths, pennaeth rhaglenni gyrfaoedd cynnar, a gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn.

Mae un o’r cwmnïau awyrofod mwyaf yn y byd, sy’n gwneud adenydd yng ngogledd Cymru, wedi ennill gwobr genedlaethol o fri.

Cwmni Airbus, o Frychdyn, Sir y Fflint, enillodd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, 2013, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

Yn ogystal, enwyd un o weithwyr y cwmni, Alex Birbeck, 21 oed, yn Brentis Uwch y Flwyddyn.

Dywedodd Mark Preston, rheolwr gweithrediadau Rhaglen Brentisiaethau Airbus: “Mae’n braf gweld holl waith caled pawb yn y cwmni yn cael ei gydnabod fel hyn – o’r prentisiaid a’r mentoriaid i’r rheolwyr a’n darparwr hyfforddiant, Coleg Cambria.”

A dywedodd Gary Griffiths, pennaeth rhaglenni gyrfaoedd cynnar gydag Airbus: “Mae’r wobr hon yn cydnabod bod yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yn arbennig iawn, ac rydym yn falch o’r hyn rydym yn ei gyflawni.”

Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau o safon a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Rhaglen Brentisiaethau Airbus yw conglfaen ei strategaeth sgiliau. Mae’n llwyddo’n ardderchog i gadw doniau y tu mewn i’r cwmni a’u datblygu gan sicrhau bod gweithlu medrus iawn gan un o brif wneuthurwyr awyrennau y byd.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni 350 o brentisiaid mewn gwahanol feysydd. Mae ganddo enw da yn Ewrop am gefnogi prentisiaethau ers blynyddoedd ac mae’n dal i arwain yn y sector.

“Mae ein Rhaglen Brentisiaethau’n ein helpu ni fel cwmni i wireddu’n huchelgais o feithrin arweinwyr yn awr ac i’r dyfodol er mwyn helpu’r cwmni i dyfu,” meddai Mark Preston, rheolwr gweithrediadau Rhaglen Brentisiaethau Airbus.

“Rydyn ni’n cyflwyno pobl ifanc i’r busnes ac yn eu datblygu. Mae rhai ohonyn nhw’n dod o’r ysgol neu’r coleg. Os ydyn nhw’n awyddus, rydyn ni’n rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu’n arweinwyr.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn gyfle i ni ddathlu’r gwahanol sgiliau sydd gan ein pobl ifanc i’w cynnig a’r ymroddiad a ddangosir gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr haeddiannol.

“Roedd yn bleser gwirioneddol cael cyfarfod â phobl ifanc sy’n gweithio mor galed, sydd mor uchelgeisiol ac sydd wedi cyflawni cymaint, a’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Maen nhw’n haeddu eu canmol ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.

“Mae’r cyhoeddiad am y gyllideb yn ddiweddar wedi cadarnhau y daw £12.5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn ein rhaglen Twf Swyddi Cymru am bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn greu dros 4,000 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn 2015-16. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £20 miliwn arall yn 2015-16 i gefnogi prentisiaethau. Mae hyn yn newyddion gwych i’n pobl ifanc a’n cyflogwyr ni a bydd yn golygu y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

More News Articles

  —