Cwmni bwyd sy’n tyfu’n medi gwobrau cymwysterau galwedigaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Sandra Walker (left) with Dailycer UK’s HR manager Jo Butterworth (centre) and Coleg Cambria trainer Yvonne Evans.

Sandra Walker (chwith) gyda rheolwr Adnoddau Dynol Dailycer UK Jo Butterworth (canol) ac hyfforddwr Coleg Cambria Yvonne Evans.

Gellir priodoli twf y cynhyrchwr bwyd Dailycer UK yng Nglannau Dyfrdwy yn helaeth i’w cydweithrediad hyfforddi staff yn llwyddiannus gyda Choleg Cambria.

Bedair blynedd ar ôl llofnodi cytundeb partneriaeth gyda’r coleg, mae’r cynhyrchwr bariau grawnfwyd a grawnfwydydd safon uchel wedi gweld 250 aelod o staff yn mynd trwy hyfforddiant mewn 11 cymhwyster galwedigaethol gwahanol yn ystod y cyfnod hwnnw mewn Hyfedredd mewn Sgiliau Diwydiant Bwyd, Cynhyrchu Bwyd, Warws a Storio, TG, Gweinyddiaeth Fusnes a Pheirianneg.

Mae ystafell hyfforddi a gefnogir yn llawn yn y busnes, gyda mynediad 24 awr, wedi helpu Dailycer i gadw a datblygu ei weithlu hynod fedrus.

Dywedodd y rheolwr Adnoddau Dynol Jo Butterworth: “Yn 2009, wynebom hinsawdd economaidd heriol ac ystyriom gymwysterau galwedigaethol fel arf i annog cyfraddau cadw staff ac fel arf hyrwyddo mewnol i arweinwyr llinell yn dilyn ad-drefnu.

Mae ymrwymiad y cwmni i gymwysterau galwedigaethol bellach wedi cael ei gydnabod. Mae e’n un o dri yn y rownd derfynol sydd â gobaith i gael ei enwi’n Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

“Roedd angen i ni ddefnyddio Cymwysterau Galwedigaethol i gynnal ein dymuniad i fod yn ‘gyflogwr o ddewis’. Gwnaethom weithio gyda hyfforddwyr Dailycer a Choleg Cambria i dreialu’r rhaglenni ac yna dathlu’r llwyddiannau a gododd forâl a hunan-barch. Mae hyn yn annog pobl eraill i hybu eu sgiliau a’u hyder trwy hyfforddiant.

“Gwnaethom ganolbwyntio ar ddatblygu ein staff cynhyrchu sydd â chyfartaledd oedran o 48 oed, gan sicrhau bod gan yr holl staff cynhyrchu gymhwyster hylendid bwyd a diogelwch bwyd uwch. Ystyrir y cyfle i ennill cymwysterau galwedigaethol ar y safle fel arf recriwtio gwych wrth i’r sefydliad dyfu.”

Disgwylir i gyfleoedd busnes newydd weld trosiant y cwmni’n codi gan 25 y cant dros y 12 mis nesaf ac mae’r rhaglen hyfforddiant VQ yn rhan allweddol o’r stori lwyddiant hon.

Dywedodd Yvonne Evans, y prif aswiriwr/aseswr ansawdd mewnol ar gyfer cynhyrchu bwyd yng Ngholeg Cambria: “Mae ein partneriaeth gyda Dailycer UK yn cyflawni ystod drawiadol o gymwysterau. Maen nhw wedi bod yn gwmni gwych i fod yn bartner gyda nhw.”

Y cyflogwyr eraill sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ Flwyddyn yw: salon gwallt proffesiynol, Spirit Hair Team o Ystrad Mynach a meithrinfa plant Little Inspirations o Lantrisant. Mae’r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn, o’i gymharu â’u maint, i wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James y tri chwmni ysbrydoledig sydd yn y rownd derfynol ac mae hefyd yn canmol yr holl gyflogwyr a oedd wedi cynnig am y Gwobrau VQ eleni.

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”

More News Articles

  —