Miss Wales yn cyfnewid swydd deledu am feithrinfa arobryn er mwyn hyrwyddo cymwysterau

Postiwyd ar gan karen.smith

Emma Jenkins with Emma Thomas and children at Dechrau Disglair nursery.

Emma Jenkins gydag Emma Thomas a’r plant ym meithrinfa Dechrau Disglair.

Newidiodd Miss Wales, sef Emma Jenkins, ei swydd bob dydd yn gweithio fel ymchwilydd i’r rhaglenni teledu materion cyfoes Cymraeg Prynhawn Da a Heno i ddysgu sgiliau gofal plant mewn meithrinfa arobryn.

Cytunodd Emma, 22 oed, o Lanelli, sy’n gweithio i Grŵp Tinopolis yn y dref, i roi cynnig am swydd gyda Dechrau Disglair yn Sanclêr i amlygu gwerth cymwysterau galwedigaethol wrth arwain at Wobrau VQ ar 9 Mehefin a’r Diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol.

Llynedd, enillodd Emma Thomas, 29 oed, a sefydlodd y feithrinfa ddwyieithog yn 2011, Wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn am ei stori ysbrydoledig. Mae hi bellach yn cyflogi 20 aelod o staff sy’n gofalu am 35 plentyn dan saith mlwydd oed bob dydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru. Ariennir y gwobrau’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru yw Diwrnod VQ. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn; cyflawnant y gweithwyr hyfforddedig, dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan y bobl ifanc y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Cred Emma Jenkins fod cymwysterau galwedigaethol yn bwysig i helpu pobl ifanc i ddatblygu gyrfa. “Mae cymwysterau galwedigaethol yn wych oherwydd maen nhw’n addysgu crefft i bobl ifanc, yn rhoi llwybr clir iddynt ac yn eu paratoi ar gyfer gwirioneddau ymarferol bywyd mewn gwaith,” meddai.

“Mae gen i ffrindiau sydd wedi cyflawni graddau prifysgol ond sy’n gweithio mewn siopau oherwydd nad oedd llwybr clir ar eu cyfer. Rwy’n credu bod gormod o bobl yn mynd i’r brifysgol i wneud graddau nad ydynt yn gweddu i swyddi.”

Mwynhaodd ei bore yn y feithrinfa a dywedodd iddi gael ei hysbrydoli gan stori lwyddiant galwedigaethol Emma Thomas.

Dechreuodd ei gyrfa deledu ei hun yn 15 oed pan sicrhaodd leoliad profiad gwaith yn Tinopolis ac yn y diwedd gofynnwyd iddi fod yn fodel ar y rhaglen oherwydd bod yr eira wedi rhwystro’r modelau cyson rhag dod i mewn. Disgrifia mai achos o fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn oedd hi.

Dychwelodd i’r cwmni fel model rhan-amser wrth gwblhau ei harholiadau TGAU a Safon Uwch ac yn y diwedd cafodd gynnig swydd fel ymchwilydd gyda rhywfaint o waith cyflwyno. “Mae cyflwyno’n rhywbeth rydw i erioed wedi eisiau ei wneud ac roedd cael swydd gyda chwmni teledu fel gwireddu breuddwyd,” meddai Emma a chanddi angerdd at y Gymraeg. “Rydw i wir yn caru fy swydd.”

Hi bellach yw arbenigwraig harddwch preswyl y cwmni ac mae hi’n aml yn cyflwyno eitemau ar S4C, wedi iddi ddatblygu ei sgiliau yn y gweithle. Ei huchelgais yw cyflwyno rhaglen ‘This Morning’ ar ITV un diwrnod.

Yn y cyfamser, mae hi’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth harddwch Miss World ym mis Hydref, nid yw’r lleoliad wedi’i gadarnhau eto. Ar ôl modelu ers iddi droi’n 16 oed, teimlai ei bod hi’n ddilyniant naturiol i gystadlu yng nghystadleuaeth Miss Wales, a enillodd ym mis Mawrth.

Ystyria fod cystadleuaeth Miss World yn grymuso menywod ac yn ehangu eu gorwelion, wrth godi llawer o arian i elusennau haeddiannol, gan gynnwys Beauty with a Purpose, ar yr un pryd.

Mae Emma Thomas yn esiampl o fenyw ifanc o Gymru sydd wedi defnyddio’i chyflawniad a’i dilyniant galwedigaethol i wireddu ei breuddwyd o redeg ei busnes gofal plant ei hun. Dechreuodd weithio gyda phlant ag anghenion arbennig mewn clwb gwyliau pan oedd hi’n 15 oed, a ddilynwyd gan swydd fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd, lle cyflawnodd Brentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant ymhen blwyddyn.

Wedyn, daeth hi’n arweinydd clwb ar ôl ysgol a symudodd ymlaen i Brentisiaeth mewn Gofal Plant, a gwblhaodd yn 2006 tra’r oedd yn gweithio fel dirprwy reolwraig mewn meithrinfa.

Yn benderfynol o ddechrau ei meithrinfa ei hun, prynodd ac adnewyddodd adeilad yr hen ysgol yn Sanclêr, gan weithio i amserlen dynn. Gan arwain y tîm drwy esiampl, cwblhaodd Emma Uwch Brentisiaeth mewn Arweinyddiaeth Gofal Plant a Rheoli Datblygu ac mae’n annog ei holl staff i ddatblygu eu sgiliau a chyflawni cymwysterau galwedigaethol.

Mae’r Gwobrau VQ yng Nghymru’n helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau a gododd safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae dau gategori gwobr: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd y rheiny yn y rownd derfynol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer o enwau ac yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yn y St David’s Hotel, Caerdydd ar noson 9 Mehefin, sef noswyl Diwrnod VQ.

More News Articles

  —