Cwmni gofal ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ben Jones, human resources director at Inspiration Lifestyle Services.

Ben Jones, cyfarwyddwr adnoddau dynol gydag Inspiration Lifestyle Services.

Mae darparwr gofal arbenigol o orllewin Cymru sy’n ymfalchïo yn ei agwedd at ddysgu a datblygu staff ar bob cam o’u llwybr gyrfa wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys.

Mae Inspiration Lifestyle Services, Caerfyrddin, sydd eisoes wedi cael achrediad aur Buddsoddwyr mewn Pobl, yn gofalu am bobl sydd ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, trwy wasanaethau preswyl a gwasanaethau yn y cartref ledled de Cymru.

Mae 14 o brentisiaid yn rhan o weithlu’r cwmni o 62 o weithwyr sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel i ateb gofynion amrywiol y cleientiaid. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cyflogi 35 o brentisiaid.

Yn awr, mae Inspiration Lifestyle Services wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mewn cydweithrediad â PRP Training, mae Inspiration Lifestyle Services yn cynnig Rhaglenni Prentisiaethau’n amrywio o Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefelau 2 a 3 o dan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) i Ddiplomas mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal ar Lefel 5 ac Arwain Tîm Lefel 2.

“Mae’n hanfodol bod gweithwyr yn dysgu ac yn datblygu er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr ein gwasanaethau bob amser ac felly mae Rhaglenni Prentisiaethau’n rhan bwysig o’n gwaith,” meddai Ben Jones, cyfarwyddwr adnoddau dynol gydag Inspiration Lifestyle Services.

“Rydym yn sicrhau bod gennym gynlluniau mewn lle fel y gall y staff gamu ymlaen gyda’r cwmni ac rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu a dyrchafu ein staff ni’n hunain.
Mae llawer o’r staff sy’n dilyn Rhaglenni Prentisiaethau yn symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch ac yn camu ymlaen yn eu gyrfaoedd.”

Ar ôl cyfnod prawf ar ôl ymuno â’r cwmni, caiff yr holl staff gynnig cyfle i weithio tuag at gymhwyster o dan y QCF, faint bynnag o brofiad sydd ganddynt ac a ydynt yn gweithio llawn amser neu ran amser. Maent yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg wrth ddysgu hefyd.

Canmolwyd Inspiration Lifestyle Services am fuddsoddi yn natblygiad ei weithwyr ac ymroi iddo gan Laura Barrett, asesydd datblygu busnes gyda PRP Training.

“Mae ethos cyffredinol ac arferion gweitho ILS yn ei wneud yn esiampl ardderchog a hoffai PRP Training ei weld yn cael ei wobrwyo,” meddai.

Wrth longyfarch Inspiration Lifestyle Services ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —