Cwmni o Gymru’n Enillwyr Rhanbarthol yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Barclays

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

O’r chwith i’r dde: Martin Baker QPM, Darryl Morton a Mike Glanville
Sefydlwyr a Chyfarwyddwyr One Team Logic.

One Team Logic (gwneuthurwyr MyConcern Safeguarding Software) oedd enillwyr y wobr ranbarthol i fusnes sefydledig oedd wedi tyfu’n gyflym (Scale-Up Entrepreneur of the Year) yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Barclays.

Yn ogystal â bod hyn yn gamp ynddi ei hunan, mae’n golygu eu bod ar restr fer y Gwobrau Cenedlaethol a gynhelir nos Iau 26 Tachwedd.

Mae’r Gwobrau, sydd yn eu pumed flwyddyn, yn cydnabod entrepreneuriaid blaengar am eu dyfeisgarwch eithriadol sy’n hybu newid cymdeithasol a thwf yn eu diwydiant. Maent yn hyrwyddo ac yn dathlu llwyddiant entrepreneuriaid ledled y Deyrnas Unedig sy’n ymdrechu i newid a gwella’u diwydiant eu hunain a chymdeithas yn gyffredinol mewn ffyrdd unigryw a chadarnhaol.

Eleni, mae cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros Entrepreneur y Flwyddyn “Dewis y Bobl”. Mae’r ymgeiswyr yn cynnwys rhai o fusnesau mwyaf cyffrous y Deyrnas Unedig sy’n tyfu’n gyflym, yn cynnwys One Team Logic.

Mae meddalwedd diogelu MyConcern yn addas i unrhyw sefydliad hyfforddi ac mae’n ffordd ddiogel ac effeithiol o gofnodi, riportio a rheoli unrhyw faterion yn ymwneud â diogelwch a llesiant y bobl ifanc y mae sefydliadau yn eu hyfforddi.

Dywedodd Martin Baker, Prif Weithredwr One Team Logic, “Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein henwi’n enillwyr rhanbarthol ac o gael cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Cenedlaethol.
 
Mae pobl yn ganolog i’n holl waith, boed hynny’r plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n ceisio’u hamddiffyn neu’r bobl sy’n gyfrifol am eu diogelu ac yr ydyn ni’n ymdrechu i’w cefnogi. Felly, byddai gwobr fel hyn yn meddwl y byd i ni.”

Cynhelir y Barclays Entrepreneur Awards ar lein nos Iau 26 Tachwedd. Gallwch ddilyn #BarclaysEntprAwards ar y noson i gael gwybod pwy fydd yr enillwyr.

www.myconcern.co.uk

More News Articles

  —