Cwmni peirianneg technoleg uchel ar y rhestr fer am wobr brentisiaeth genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Prif weithredwr Nemein Ltd, Suzannah Bourne a’r prentis Alex Hughes.

Mae cwmni peirianneg technoleg uchel uchelgeisiol yn y Pîl sy’n gweithio yn y sector ynni’n bennaf ar y rhestr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Mae Nemein Ltd yn rownd derfynol categori Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau, a rennir yn 13 chategori, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Nemein Ltd yn datblygu ac yn cynhyrchu offer electro-mecanyddol i’r diwydiant olew a nwy yn ogystal â chynhyrchion ar gyfer y diwydiannau meddygol, robotaidd, modurol a cherddorol. Mae gan y cwmni, a sefydlwyd gan ddau beiriannydd yn 2013, chwe aelod o staff, gan gynnwys un prentis sy’n cael ei hyfforddi gan Acorn Learning Solutions.

Disgrifiodd y prif weithredwr, Suzannah Bourne, peiriannydd mecanyddol cymwys, sut mae’r cwmni eisiau cyflawni twf cyflym trwy gyfleoedd seiliedig ar sgiliau i bobl ifanc.

“Rydym am fuddsoddi mewn hyfforddiant cynaliadwy ar draws ystod o sgiliau peirianneg er mwyn pontio bwlch sgiliau cydnabyddedig yn y farchnad,” meddai. “Rhagorodd ein prentis cyntaf ar ein holl ddisgwyliadau a symudodd ei waith ar ddarn allweddol o offer y prosiect ymlaen dri mis a gwellodd ein llyfr archebion.”

Pwysleisir ymroddiad Nemein i hyfforddiant gan ei nod tymor hir i sefydlu ysgol hyfforddi prentisiaeth peirianneg, a fydd o fantais i’r cwmni a’r gymuned leol.

Mae’r cwmni newydd ymroi i noddi ei drydydd prosiect MSc Prifysgol, mae wedi darparu lleoliadau gwaith a hyfforddiant i ddau fyfyriwr chweched dosbarth yn ogystal â chynnal a chynnig hyfforddiant i fyfyriwr mecatroneg o brifysgol yn Ffrainc sydd ar interniaeth.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Prentisiaethau yw un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda’r datblygiadau yn eu diwydiant a chyflawni gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth. Rydw i wrth fy modd fod cwmnïau fel Nemein Ltd yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyfforddi’n gweithlu i’r dyfodol.”

Mae disgwyl i dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —