Prentis a helpodd BT i arbed £6 miliwn wedi cyrraedd rhestr fer am wobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

James Parry gyda’r rheolwyr Sandra Sexton (chwith) a Rachel Ellis.

Faint o bobl sy’n gallu dweud eu bod wedi helpu eu cyflogwr i arbed £6 miliwn? Dyna a wnaeth prentis o’r enw James Parry trwy ad-drefnu cytundebau gwaith tîm o syrfewyr er mwyn cwblhau contract mewn pryd ac osgoi cosbau ariannol.

Yn awr, mae’r dyn 20 oed o’r Pentre, Rhondda Cynon Taf, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr brentisiaethau genedlaethol o fri. Mae’n un o dri sydd yn rownd derfynol dosbarth Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014.

Bydd ymhlith 36 o bobl sydd yn rowndiau terfynol 13 o ddosbarthiadau mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar nos Wener, Hydref 31. Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

Maent yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Yn ogystal, maent yn ffordd wych o werthuso gwaith hyfforddi a datblygu, ac o ysgogi unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn ddiweddar, cafodd James ei secondio i swydd gefnogi ym maes rheoli prosiectau gydag Openreach (busnes yng Ngrŵp BT). Erbyn hyn, mae’n mentora prentisiaid, mae wedi dod yn llysgennad Prentisiaethau ac mae’n gwneud gwaith arloesol.

Ar ôl ennill 11 TGAU, pedair Lefel A ac un AS yn Ysgol Gyfun Treorci, dewisodd ddilyn Prentisiaeth Broffesiynol mewn TGCh a Telathrebu gyda BT ac Acorn Learning Solutions. Llwyddodd i gwblhau’r brentisiaeth 10 mis yn gynt na’r disgwyl.

Erbyn hyn, mae’n astudio rhan amser ar gyfer gradd mewn Rheoli Busnes ac mae’n gobeithio ymuno â’r Openreach Succession Academy i ddysgu bod yn arweinydd.

Mae James wedi gweithio ar sawl prosiect arloesol, yn cynnwys gosod rhwydweithiau ffibr newydd ar gyfer prosiect BT a Llywodraeth y DU i gynnig gwasanaethau band eang. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiect i ailadeiladu ysgol gynradd yn Kenya gan drawsnewid bywydau plant.

Llwyddodd i wneud hyn i gyd tra bu ei fam yn brwydro yn erbyn canser. “Er bod fy mywyd personol yn anodd, rwy’n dal i ddod i’r gwaith gydag agwedd gadarnhaol,” meddai.

“Yn bersonol, rwy’n credu mai Prentisiaeth yw’r ffordd orau o gychwyn gyrfa, gan ddilyn llwybr dysgu sy’n bwrpasol ar gyfer y swydd honno. Roeddwn i’n gwybod y byddai amgylchedd lle gallwn ddysgu, ennill, datblygu a thyfu’n rhoi cyfle i mi ffynnu fel unigolyn a chael effaith gadarnhaol mewn cwmni.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae Prentisiaethau yn ffordd wych o gychwyn gyrfa lwyddiannus. Rydych yn ennill cyflog wrth ddysgu ac ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod trwy Brydain. Maent hefyd yn cyflenwi gweithwyr medrus, brwd a chymwys ar gyfer diwydiant. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i James yn ei yrfa.”

Disgwylir i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo fawreddog lle bydd cogyddion o Dîm Coginio Cenedlaethol Cymru yn paratoi’r bwyd.

More News Articles

  —