Cyfle i Grow and Save ennill prif wobr Her Arian am Oes yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig

Postiwyd ar gan karen.smith

Grow & Save

Tîm o Gaerdydd yn cystadlu mewn gornest fawr i helpu pobl i reoli arian yn well

Bydd pobl ifanc o Gaerdydd yn teithio i Lundain i gyflwyno’u prosiect rheoli arian i banel o feirniaid uchel eu parch yn y gobaith o ennill y brif wobr yn Rownd Derfynol Her Arian am Oes Lloyds TSB trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.

Y tîm o chwech, rhwng 17 ac 19 oed, o ITEC Training Solutions, oedd enillwyr Rownd Derfynol Cymru yn y gystadleuaeth sy’n herio pobl ifanc i ddyfeisio prosiectau i helpu pobl yn eu cymuned i drin arian yn well.

Roedd cynlluniau da eraill o bob rhan o Gymru’n cystadlu ond llwyddodd y tîm o Gaerdydd i blesio’r beirniaid â phrosiect ‘Grow and Save’ a sefydlwyd ar ôl cael grant o £500 gan Her Arian am Oes ddiechrau’r flwyddyn. Helpu pobl i arbed arian trwy dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau oedd y nod ac fe roeson nhw becynnau i bobl i’w helpu i wneud hynny.

Yn awr, bydd y bobl ifanc yn wynebu timau o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y seremoni yn Amgueddfa Ffilmiau Llunain ar y Southbank ar ddydd Iau 23 Mai. Byddant yn cael cyflwyno’u prosiect i banel beirniaid dylanwadol sef Caroline Rookes, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Cynghori Ariannol; Emma Thomas, Prif Weithredwr YouthNet; Tracey Bleakley, Prif Weithredwr Grŵp Addysg Cyllid Personol (PFEG); Clare Francis, Prif Olygydd Moneysupermarket.com; a Graham Lindsay, Cyfarwyddwr Grŵp Busnes Cyfrifol y Lloyds Banking Group.

Dywedodd Farhin Begum, 19 oed, o Grow and Save: “Rydyn ni i gyd wedi mwynhau’r profiad o gymryd rhan yn Her Arian am Oes ac rydyn ni mor falch o weld bod ein prosiect ni wedi helpu’r gymuned i arbed arian. Mae’n deimlad cyffrous cael mynd i Lundain i’r Rownd Derfynol ac rydyn ni’n falch o gael cynrychioli Cymru.”

Dywedodd Sarah Willingham, buddsoddwr ac arbenigwr cyllid personol sy’n cyflwyno’r Rownd Derfynol: “Mae rheoli arian yn sgil bwysig iawn ac mae’n braf gweld pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau ac yn eu trosglwyddo i eraill. Rwy wedi synnu at greadigrwydd a brwdfrydedd y bobl ifanc hyn yn y prosiectau Her Arian am Oes. Maen nhw wedi gwneud y gwaith yn hwyl ac yn ddiddorol ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu gweld yn rhannu eu gwybodaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn y Rownd Derfynol yr wythnos nesaf ac yn dymuno’n dda iddyn nhw i gyd!”

Mae’r bobl ifanc eisoes wedi ennill £1,000 i’w roi i elusen o’u dewis ac, os byddan nhw’n llwyddiannus yr wythnos nesaf, bydd Grow and Save yn ennill £2,500 arall at achos da. Bydd pob aelod yn cael talebau siopa gwerth £100 hefyd a’r cyfle i gydweithio â menter o’r Lloyds Banking Group am flwyddyn.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Rydyn ni mor falch o bawb sydd yn y rownd derfynol am wneud mater rheoli arian yn hwyl ac am newid bywydau yn eu cymunedau. Mae’n dda’u gweld yn harneisio’r fath greadigrwydd ac mae eu brwdfrydedd a’u hynni wedi creu argraff fawr arnom.

“Nod Her Arian am Oes yw gwneud sgiliau trin arian yn rhan hanfodol o gymunedau ledled y Deyrnas Unedig, ac arfogi pobl ifanc â’r ddealltwriaeth ariannol y mae arnyn nhw’u hangen i wireddu eu potensial. Mae Grow and Save yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i wneud hyn ac felly rwyf am ddiolch iddynt am eu hymrwymiad hyd yma a dymuno’n dda iddynt yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yr wythnos nesaf.”

Bydd Grow and Save yn cystadlu yn erbyn prosiectau Act on Money o Lundain, England; Bouncing Babies o Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon a JWCMoney1 o Kilwinning, yr Alban.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —