Grow and Save yn mynd â’r wobr uchaf yn Rownd Derfynol yr Her Arian am Oes
Sgiliau rheoli arian pobl ifanc Caerdydd yn cael eu cydnabod yn rownd derfynol Cymru o gystadleuaeth fawreddog
Mae tîm o bobl ifanc o Gaerdydd yn dathlu llwyddiant heddiw ar ôl cael eu coroni’n enillwyr yn rownd derfynol Her Arian am Oes Cymru Lloyds TSB, sef cystadleuaeth ledled y DU sydd wedi’i dylunio i ysbrydoli gwell sgiliau rheoli arian mewn cymunedau.
Brwydrodd y tîm o ddysgwyr rhwng 17 ac 19 oed gystadleuaeth o bob cwr o Gymru yn y seremoni yng Nghaerdydd ddoe gyda’u prosiect arloesol i ddarparu pecynnau i helpu pobl i arbed arian trwy dyfu eu ffrwythau, eu llysiau a’u perlysiau eu hunain. Llwyddodd eu prosiect i argyhoeddi’r beirniaid o allu arobryn y tîm nid yn unig i wella’u sgiliau rheoli arian eu hunain, ond i ddefnyddio’r rhain i gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned leol.
Bydd Grow and Save o ITEC Training Solutions bellach yn symud ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog Her Arian am Oes y DU yng Nghanol Llundain ar 23 Mai, lle byddant yn cystadlu yn erbyn timau o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i hawlio teitl enillwyr cyffredinol yr Her Arian am Oes. Yn ogystal, mae’r bobl ifanc wedi ennill £1,000 i’w rhoi i elusen o’u dewis a thalebau siopa gwerth £50 i bob aelod o’r tîm.
Dywedodd Farhin Begum, 19 oed, o Grow and Save: “Rydym wrth ein boddau o ennill y wobr. Mae wedi rhoi hwb hyd yn oed mwy i’n hyder ni ac rydym yn mynd i barhau i ddatblygu’r prosiect. Bwriadwn ei ehangu o 20 ysgol gynradd a meithrinfa yng Nghaerdydd i ysbytai, hosteli a chartrefi i’r henoed.”
Dywedodd noddwr y tîm, Annabel Fuidge, mentor y tîm o ITEC Training Solutions: “Rydw i mor falch o’r merched. Maen nhw wir wedi ymddiddori yn y prosiect ac maen nhw am barhau i’w datblygu. Byddwn yno bob cam o’r ffordd.”
Dywedodd Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn Lloyds Banking Group: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Grow and Save yw enillwyr rownd derfynol Her Arian am Oes Cymru. Crëwyd argraff fawr ar ein beirniaid trwy’r ffordd y cymerodd y tîm syniad syml a’i ddatblygu mor bell yn eu cymuned. Mae tyfu perlysiau a llysiau yn eich gardd neu ar sil eich ffenestr yn hawdd ei wneud a bydd yr arbedion a wnewch wir yn adio i fyny.
“Mae’r Her Arian am Oes bellach yn ei hail flwyddyn ac mae’n ysbrydoledig gweld cynifer o bobl ifanc yn cael eu grymuso i ddysgu ffyrdd newydd o reoli eu harian yn dda a chefnogi pobl eraill trwy basio’r sgiliau hyn ymlaen.
“Edrychwn ymlaen at groesawu Grow and Save i Rownd Derfynol Fawreddog y DU ar 23 Mai a dymunaf bob lwc iddynt.”
Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol Fawreddog y DU ar 23 Mai yn ennill mentor Lloyds Banking Group, £2,500 ar gyfer elusen o’u dewis a £100 o dalebau siopa i bob aelod o’r tîm. Yn ogystal, bydd enillydd cyffredinol Gwobr y Bobl yn cael ei dewis gan westeion i’r digwyddiad.
Roedd y panel beirniaid yn cynnwys Simon Farrington, golygydd y Wales on Sunday a’r golygydd datblygu busnes ar gyfer Media Wales, Essex Havard, cydlynydd ymgyrchoedd a chodi arian Niace Dysgu Cymru, Mike Lewis, cysylltydd busnes BITC sydd ar secondiad o Lloyds Banking Group, Stephanie Lloyd, llywydd UCM
Cymru a Garin Wilcock o Goleg Catholig Dewi Sant. Dewisodd y panel Grow and Save o restr fer o bum tîm ledled Cymru.
Roedd y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cynnwys:
- Quit and Sav£, tîm o bobl 16 i 18 oed o Goleg Ystrad Mynach sydd wedi dynodi’r cyfleoedd arbed arian a’r manteision o dorri i lawr ar ysmygu neu roi’r gorau i ysmygu.
- Sk8 Swap Shop, tîm o bobl 16 i 23 oed o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin, sy’n hyrwyddo rheolaeth ar arian trwy siop gyfnewid, gan wahodd aelodau o’r gymuned i’w digwyddiad i gyfnewid eu nwyddau.
- Rampart Rebels, tîm o bobl 16 i 19 oed o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe. Nod ei brosiect yw rhoi gwybod i’r cyhoedd am fenthycwyr arian didrwydded yn y ddinas. Enillodd Rampart Rebels Wobr y Bobl yn y rownd derfynol.
- Swimming with the Sharks, tîm o bobl 16 i 17 oed o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sy’n codi ymwybyddiaeth o beryglon benthyg arian gan fenthycwyr arian didrwydded a rhoi gwybodaeth am ffyrdd eraill o fenthyg arian.
Mae’r Her Arian am Oes yn rhan o’r rhaglen Arian am Oes, sef partneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid sector addysg bellach ym mhedair gwlad y DU, gan gynnwys ColegauCymru / CollegesWales a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf llwyddiannus ac arloesol o wella sgiliau rheoli arian y dysgwyr, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r tîm rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu oedolion yn y gymuned.
I gael mwy o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter yn www.twitter.com/moneyforlifeuk
More News Articles
« Gwobr y Bobl yn Rownd Derfynol yr Her Arian am Oes — Cyfle i Grow and Save ennill prif wobr Her Arian am Oes yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig »