Cyfle i Rampart Rebels ennill prif wobr Her Arian am Oes yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig

Postiwyd ar gan karen.smith

Rampart Rebels

Tîm o Abertawe yn cystadlu mewn gornest fawr i helpu pobl i reoli arian yn well

Bydd pobl ifanc o Abertawe yn teithio i Lundain i gyflwyno’u prosiect rheoli arian i gynulleidfa o dros 150 yn y gobaith o ennill y brif wobr yn Rownd Derfynol Her Arian am Oes Lloyds TSB trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.

Y tîm o hyfforddeion o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe, sydd rhwng 16 ac 19 oed, oedd enillwyr Gwobr y Bobl yn Rownd Derfynol Cymru yn y gystadleuaeth sy’n herio pobl ifanc i ddyfeisio prosiectau i helpu pobl yn eu cymuned i drin arian yn well.

Roedd cynlluniau da eraill o bob rhan o Gymru’n cystadlu ond llwyddodd y tîm o Abertawe i blesio’r cyhoedd â phrosiect ‘Rampart Rebels’ a sefydlwyd ar ôl cael grant o £500 gan Her Arian am Oes ddiechrau’r flwyddyn. Nod y tîm oedd rhoi gwybodaeth i bobl am fenthycwyr didrwydded (loan sharks) yn Abertawe.

Yn awr, bydd y bobl ifanc yn wynebu timau o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y seremoni yn Amgueddfa Ffilmiau Llunain ar y Southbank ar ddydd Iau 23 Mai. Bydd gofyn i’r bobl ifanc wynebu’r her trwy gyflwyno’u prosiect i gynulleidfa o dros 150 a fydd yn pleidleisio dros enillydd Gwobr y Bobl ar ddiwrnod y Rownd Derfynol Fawreddog.

Dywedodd Tara Lewis, o Rampart Rebels: “Rydyn ni’n llawn cyffro am gael mynd i Lundain yr wythnos nesaf ac yn edrych ymlaen at gyflwyno’n prosiect i’r gynulleidfa. Rydyn ni i gyd wedi ennill sgiliau gwerthfawr yn Her Arian am Oes ac rydyn ni wedi mwynhau helpu’r gymuned.”

Dywedodd Sarah Willingham, buddsoddwr ac arbenigwr cyllid personol sy’n cyflwyno’r Rownd Derfynol: “Mae rheoli arian yn sgil bwysig iawn ac mae’n braf gweld pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau ac yn eu trosglwyddo i eraill. Rwy wedi synnu at greadigrwydd a brwdfrydedd y bobl ifanc hyn yn y prosiectau Her Arian am Oes. Maen nhw wedi gwneud y gwaith yn hwyl ac yn ddiddorol ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu gweld yn rhannu eu gwybodaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn y Rownd Derfynol yr wythnos nesaf ac yn dymuno’n dda iddyn nhw i gyd!”

Os bydd Rampart Rebels yn llwyddiannus yr wythnos nesaf, byddant yn cael cyfle i gydweithio â mentor o’r Lloyds Banking Group a fydd yn eu helpu i ddal ati i roi syniadau gwych i arbed arian ar waith.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Rydyn ni mor falch o bawb sydd yn y rownd derfynol am wneud mater rheoli arian yn hwyl ac am newid bywydau yn eu cymunedau. Mae’n dda’u gweld yn harneisio’r fath greadigrwydd ac mae eu brwdfrydedd a’u hynni wedi creu argraff fawr arnom.

“Nod Her Arian am Oes yw gwneud sgiliau trin arian yn rhan hanfodol o gymunedau ledled y Deyrnas Unedig, ac arfogi pobl ifanc â’r ddealltwriaeth ariannol y mae arnyn nhw’u hangen i wireddu eu potensial. Mae Rampart Rebels yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i wneud hyn ac felly rwyf am ddiolch iddynt am eu hymrwymiad hyd yma a dymuno’n dda iddynt yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig yr wythnos nesaf.”

Bydd Rampart Rebels yn cystadlu yn erbyn timau eraill sydd yn rownd derfynol Gwobr y Bobl; Savvy Savers o Coventry, Lloegr; Less Dash/More Cash o SwyddDown, Gogledd Iwerddon a Glamping on a Budget o Gaeredin, yr Alban.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys

ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —