Chwech o’r goreuon yn cystadlu am wobrau VQ yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae chwech o’r cyflogwyr a’r dysgwyr gorau yng Nghymru wedi’u dewis i fod yn y rownd derfynol, o blith nifer fawr o geisiadau, i gystadlu am y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol 2013 (Gwobrau VQ).

Bydd enillwyr gwobrau Cyflogwr VQ y Flwyddyn a Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi ar 5 Mehefin mewn seremoni a gynhelir yng Ngholeg Morgannwg, Nantgarw. Bydd y coleg hefyd yn cynnal un o’r tri achlysur Diwrnod VQ rhanbarthol yng Nghymru.

O blith y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn mae’r cwmni allanoli prosesu busnes Capita yn Nantgarw; Cyngor Sir y Fflint yn Llaneurgain;a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Wrecsam.

Mae’r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy’n gwneud gwir gyfraniad i wella sgiliau a natur gystadleuol ar raddfa genedlaethol.

O blith y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn mae pencampwr Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru Tomi Jones o Langollen; cyn fyfyriwr Coleg Caerdydd a’r Fro, Leo Hacker, sydd bellach yn gweithio i’r Royal Garden Hotel, Kensington yn Llundain; a Helen Wynne, perchennog Blythswood Childminding Services, Wrecsam.

Mae’r wobr hon yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir ddilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi cyflawni’n sylweddol yn eu maes.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Sgiliau Cymru, Jeff Cuthbert: “Gall cymwysterau galwedigaethol helpu unigolion o bob oed i ‘achub y blaen’ boed hynny yn eu gyrfaoedd presennol neu eu gyrfaoedd i’r dyfodol neu fel llwyfan i addysg bellach.

“Rydym am gydnabod gwerth cymwysterau galwedigaethol a dathlu gwerth cyflawniad galwedigaethol i’r unigolyn ac i’r genedl. Gallwn ond yrru economi Cymru yn ei blaen gyda phobl a chanddynt y sgiliau a’r hyfforddiant priodol.

“Nod Diwrnod VQ ar 5 Mehefin yw codi statws dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol a dathlu cyflawniad galwedigaethol.”

Bydd tri digwyddiad rhanbarthol yng Nghymru’n dathlu Diwrnod VQ trwy osod chwyddwydr ar ansawdd, ystod ac amrywiaeth y cymwysterau galwedigaethol.

Yng Ngogledd Cymru, mae Campws Cei Connah Coleg Glannau Dyfrdwy yn trefnu arddangosiadau ymarferol o sgiliau galwedigaethol gyda chymorth ystod o ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16.

Bydd Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De Orllewin Cymru yn rhoi cyfleoedd ymarferol hefyd yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Canol Dinas Abertawe a Chanolfan Siopa Sant Elli yn Llanelli. Bydd gwasanaethau radio lleol yn cefnogi’r diwrnod ar draws Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Ar wahân i gynnal seremoni Gwobrau VQ, bydd Campws Nantgarw Coleg Morgannwg yn dod â darparwyr addysg a hyfforddiant ynghyd gyda chyflogwyr i arwain gweithdai a chyfleoedd ymarferol.

Dyluniwyd Diwrnod VQ i ddathlu sgiliau galwedigaethol a’r llwyddiant a ddaw yn eu sgîl, codi safonau ar hyd a lled Cymru a rhoi sylw i esiamplau rhagorol. Dengys y gwobrau bod sgiliau galwedigaethol yn gwella perfformiad unigolion a sefydliadau ac yn darparu gweithle o safon fyd-eang i Gymru.

Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod cyn bwysiced i’r economi ac i’r unigolyn, gan eu bod yn cyflwyno’r gweithwyr hyfforddedig a dawnus y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Cydlynir Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac fe’u hariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —