Cyflogwyr Cymru’n helpu i flaenoriaethu sgiliau
Mae cyflogwyr ledled Cymru’n helpu i benderfynu ar flaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael ennill cymwysterau a fydd yn eu helpu i gael gwaith. Dyna’r neges mewn cynhadledd yn ddiweddar.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, fod 6,000 o gyflogwyr yn cyfrannu at arolwg sgiliau a fydd yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru fwy o wybodaeth am y farchnad lafur (LMI).
Esboniodd, yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yng Nghaerdydd, bod Archwiliad Cenedlaethol Sgiliau Strategol i Gymru, a gyhoeddwyd eleni, wedi dangos pa sgiliau yr oedd gwahanol sectorau a chyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Bydd prif ganlyniadau Arolwg Sgiliau ymhlith Cyflogwyr ar gael cyn hir, meddai. Roedd 6,000 o gyflogwyr ledled Cymru wedi cyfrannu at hwn.
“Mae’n bwysig i ni gael gwybodaeth am y farchnad lafur i’n helpu i gynllunio’n effeithiol at y dyfodol ac i dargedu’r negeseuon a ddaw o’r wybodaeth hefyd,” meddai. “Fel rhan o’r prosiect LMI, rydym yn gweithio ar gynlluniau i helpu pobl i ddeall y cysylltiadau rhwng y cymwysterau a ddewisir, llwybrau gyrfa, cyfleoedd perthnasol yn y farchnad lafur a thueddiadau hirdymor.”
Bydd dadansoddiad o’r wybodaeth yn cael ei rannu gyda chyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a chynghorwyr gyrfaoedd, meddai.
Roedd Mr Cuthbert yn llawn canmoliaeth i ymroddiad, safon gwaith a phroffesiynoldeb gweithwyr y sector dysgu seiliedig ar waith wrth wella lefelau sgiliau a chyfleoedd gwaith pobl Cymru mewn amserau anodd.
Dywedodd fod seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru’r noson gynt wedi’i atgoffa beth y gall dysgwyr ei gyflawni o gael cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad priodol.
“Mae’ch gwaith caled chi’n gwneud gwahaniaeth i brentisiaid ac i bawb sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith,” meddai wrth y cynadleddwyr gan eu llongyfarch am gyflawni agenda drawsnewid Llywodraeth Cymru.
“Mae’ch rhaglenni chi yn bont bwysig sy’n helpu pobl i ymuno neu ailymuno â’r farchnad lafur a gwella’u sgiliau,” meddai Mr Cuthbert.
Soniodd am wahanol ddulliau Llywodraeth Cymru o helpu pobl sy’n chwilio am waith, fel menter Twf Swyddi Cymru, sy’n werth £25m, ar gyfer pobl ddi-waith rhwng 16 a 24 oed. Bydd cynllun peilot sydd ar waith yn ne orllewin Cymru’n cael ei ehangu i weddill y wlad y flwyddyn nesaf.
Thema’r gynhadledd oedd ‘Sefyll dros Sgiliau’ ac roedd yn canolbwyntio ar fanteision a gwerth sgiliau a hyfforddiant galwedigaethol wrth gydweithio â busnesau er lles Cymru. Mae NTfW yn rhwydwaith o 109 o ddarparwyr dysgu gyda sicrwydd ansawddd sydd â chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru.
Yn ôl y llywydd, yr Arglwydd Ted Rowlands, roedd NTfW wedi datblygu dros y degawd diwethaf i fod yn gorff oedd yn dylanwadu ar bolisi a strategaeth yng Nghymru.
Soniodd bod cysylltiad uniongyrchol rhwng sgiliau a chyflogaeth a mynegodd bryder am lefelau diweithdra uchel ym Mhrydain. Heriodd y syniad na allai’r Llywodraeth wneud dim am y peth.
Aeth ati i annog y cynadleddwyr i ymdrechu a pheidio â chaniatáu i genhedlaeth arall o bobl ifanc gael eu troi heibio fel nad oedd ganddynt awch i ddysgu sgililau. “Os na wnawn ni ymestyn allan at bobl hen ac ifanc, rydym yn creu problemau ar gyfer y dyfodol,” rhybuddiodd.
“Bob dydd, rydym yn gweld gwerth dysgu seiliedig ar waith sy’n gwneud lles i gymunedau, yr economi ac, yn fwy na dim, i’r unigolyn. Dewch i ni sôn am bobl a chyfleoedd, eu gwerth a’u potensial.”
Defnyddiodd Arwyn Watkins, a oedd yn ymddeol o gadair NTfW, thema’r gynhadledd, ‘Sefyll dros Sgiliau’, i herio’r aelodau i wella’r ffordd y maent yn cydweithio fel rhwydwaith i ddarparu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith o safon uchel, a ffyrdd i ddysgwyr sy’n derbyn hyfforddiant a rhai sydd ar y cynllun Camau at Waith symud ymlaen yn hwylus i brentisiaethau a swyddi.
Dywedodd mai un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu NTfW yw sicrhau cyllid i raglenni dysgu seiliedig ar waith ar gyfer dysgwyr dros 25 oed.
Roedd arolwg a wnaed yn ddiweddar yn achos dychryn iddo, meddai. Roedd yn dangos bod 56 y cant o athrawon ysgolion uwchradd yn dweud mai ychydig a wyddent am brentisiaethau o’i gymharu ag 8 y cant oedd yn dweud mai ychydig a wyddent am brifysgolion.
Gan fod llawer o raddedigion yn dymuno cymryd rhan mewn rhaglenni prentisiaethau, credai Mr Watkins y dylai’r cynadleddwyr hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith ar bob cyfle a gaent wrth weithio gydag ysgolion ac athrawon.
Dysgu gydol oes oedd byrdwn neges yr Athro Teresa Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Credai y dylai hyfforddiant galwedigaethol gael ei werthfawrogi fwy ac y dylai fod mwy o gyfleoedd i bobl fanteisio arno trwy gydol eu hoes.
Y prif siaradwr arall oedd Teresa Holdsworth, dirprwy gyfarwyddwr is-adran busnes a sgiliau yn Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd gweithdai’n canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i arweinwyr a rheolwyr busnesau; dysgu seiliedig ar waith; arwain y ffordd ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang; a chyfansoddiad NTfW.
Noddwyd y gynhadledd gan Agored Cymru, Pearson a Media Wales.
Prif siaradwyr cynhadledd NTfW (o’r chwith): y llywydd, yr Arglwydd Ted Rowlands, Teresa Holdsworth o Lywodraeth Cymru; cadeirydd NTfW, Arwyn Watkins; Janet Barlow, prif weithredwr Agored Cymru; Andrew Clark o Lywodraeth Cymru a’r Athro Teresa Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Yr Arglwydd Ted Rowlands yn annerch y gynhadledd.
More News Articles
« Sefyll dros Sgiliau — Hyfforddi Rheolwyr yn help i gwmni peirianyddol ennill gwobr »