Hyfforddi Rheolwyr yn help i gwmni peirianyddol ennill gwobr

Postiwyd ar gan karen.smith

Sarah Clark (canol), cyfarwyddwr adnoddau dynol Pullman Rail, gyda chyfarwyddwyr Fix Training, Helen Jones (chwith) a Jacqui Niven.

Mae rhaglen hyfforddi ar gyfer arweinwyr a rheolwyr, a gafodd ei datblygu a’i chyflenwi’n arbennig gan Fix Training, wedi helpu cwmni peirianyddol o Gaerdydd i ennill gwobr bwysig.

Llwyddodd Pullman Rail Limited i ennill Gwobr Sgiliau a Hyfforddiant yr EEF ar gyfer Rhanbarth y De Orllewin a bydd yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol ym mis Ionawr lle bydd yn cystadlu yn erbyn enillwyr pedair rhan arall o Brydain.

Trefnir y gwobrau blynyddol gan EEF, corff ar gyfer gweithgynhyrchwyr, ac maent yn cydnabod rhagoriaeth ym meysydd menter, arloesi, perfformiad amgylcheddol a datblygu sgiliau ymhlith cwmnïau gwneuthgynhyrchu ym Mhrydain.

Mae’r wobr yn goron ar flwyddyn lwyddiannus iawn i Pullman Rail, gyda’r trosiant yn tyfu 50 y cant o £10 miliwn i £15 miliwn a’r cwmni’n cyflogi 13 o weithwyr ychwanegol i wneud cyfanswm o 134 yn 2011.

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn trwsio ac ailwampio cerbydau trenau ac ati ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd. Mae’n argyhoeddedig bod y llwyddiant wedi dod am iddo fuddsoddi mewn sgiliau arwain a rheoli, moderneiddio ei ddull o reoli a sicrhau bod ei safle wyth erw yng Nghaerdydd yn gallu cynhyrchu 50 y cant yn fwy.

Llwyddodd Pullman Rail i ennill cwsmeriaid newydd a chael rhagor o waith gan hen gwsmeriaid wrth ad-drefnu’r busnes a sefydlwyd ym 1993 gan y rheolwr gyfarwyddwr, Colin Robinson, mewn ffordd oedd yn rhoi hwb i’w hyder.

Merch Mr Robinson, Sarah Clark, y cyfarwyddwr adnoddau dynol, a fu’n bennaf gyfrifol am foderneiddio’r ffordd y caiff y cwmni ei redeg trwy roi rhagor o rym i’r tîm rheoli a’r gweithwyr ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed.

Meddai beirniaid yr EEF am Pullman Rail: “Dyma enghraifft ardderchog o newid ymddygiad uwch-reolwyr ac arferion gweithio er mwyn gwella perfformiad y busnes. Cam eofn – trwy gydnabod bod angen uwchsgilio staff, mae’r cwmni wedi llwyddo i gwtogi’r amseroedd arwain, mae’r gweithlu’n fwy unedig ac mae’r arweinwyr wedi’u grymuso.”

Mae’r cwmni’n disgwyl am asesiad ar gyfer y safon Buddsoddwyr mewn Pobl, a fydd yn garreg filltir arall yn ei ddatblygiad.

Bu’r hyfforddiant arwain a rheoli a gafodd ei ddatblygu a’i gyflenwi gan Fix Training o Gaerdydd yn allweddol i’r trawsnewidiad. Llwyddodd chwe aelod o’r tîm uwchreolwyr i sicrhau Dyfarniad Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Rheolaeth Weithredol ac aeth dau ymlaen i’r cam nesaf.

Cafodd y rhaglen 10 mis ei hariannu trwy’r EEF gan gynllun Llywodraeth Cymru, Sgiliau Twf Cymru.

Dywedodd Mrs Clark fod y tîm rheoli’n cydweithio’n effeithiol gan rannu gwybodaeth, llwyddiannau ac amcanion perfformiad gyda’r holl weithwyr.

O ganlyniad i’r hyfforddiant arwain a rheoli, mae’r cwmni’n awyddus i barhau i wella ac mae Fix Training yn gweithio ar raglen hyfforddi ddilynol ar gyfer Pullman Rail.

“Mae gennym ffordd bell i fynd ond rydym wedi symud ymlaen yn dda i newid diwylliant y cwmni a’n dull o reoli,” meddai Mrs Clark. “Rwy wrth fy modd â’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma.

“Nid dilyn arweiniad ein cystadleuwyr rydyn ni bellach; rydyn ni’n gosod ein trywydd ein hunain.”

Talodd deyrnged i Fix Training, gan ddweud: “Y peth gwych oedd eu bod nhw’n addasu’r rhaglen ILM i’n siwtio ni. Roedd yr hyfforddiant yn arloesol ac yn hyblyg, ac yn berthnasol i’n busnes a’n diwydiant ni. Roedden nhw’n deall ein problemau a beth roedden ni am ei gyflawni.”

Meddai Helen Jones, un o gyfarwyddwyr Fix Training: “Rydyn ni’n falch iawn o Pullman Rail am ennill y wobr ac wrth ein bodd bod yr hyfforddiant arwain a rheoli wedi bod mor llwyddiannus.

“Mae pob sefydliad yn unigryw ac rydyn ni’n sicrhau bod ein rhaglenni yn addas ar gyfer yr unigolyn a’r sefydliad. Dydi’r un peth ddim yn gwneud y tro i bawb.”

More News Articles

  —