Sefyll dros Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

Arwyn Watkins

Ar ddiwedd ei gyfnod yn y gadair, mae Arwyn Watkins yn edrych yn ôl ac ymlaen wrth baratoi ar gyfer cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar 17 Tachwedd.

Ar ôl pendroni’n hir ynglŷn â theitl fy nghynhadledd olaf fel cadeirydd NTfW, penderfynais bod ‘Sefyll dros Sgiliau’ yn adlewyrchiad da o’r ffordd yr ydym wedi mynd ati dros y blynyddoedd i geisio sicrhau bod sgiliau galwedigaethol yn cael eu cyfrif yr un mor bwysig â chyfleoedd eraill i bobl o 16 oed ymlaen.

Fi fyddai’r cyntaf i gyfaddef bod tipyn o waith i’w wneud o hyd i wireddu hyn ond rwy’n sicr fod gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni erbyn hyn.

Mae NTfW yn cynnwys rhwydwaith ardderchog o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel. O bryd i’w gilydd, mae gofyn i’r darparwyr hyn gymryd rhan mewn cylch tendro cystadleuol ac yna fwrw ati i gydweithio i gyflenwi’r gwasanaethau a gomisiynwyd. Mae hyn yn unigryw ym maes addysg a hyfforddiant ac, fel y gallwch ddychmygu, mae rhai problemau cychwynnol yn codi bob tro y cyhoeddir canlyniad un o’r cylchoedd tendro cystadleuol.

Ers i mi ddychwelyd i Ganolbarth Cymru ym 1998, rwy wedi bod ar daith sydd wedi cynnwys llawer iawn o ddysgu, datblygu a newid. Bryd hynny, roedd tua 162 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ar gontract ond mae’r nifer wedi gostwng bob blwyddyn ers hynny. Erbyn hyn, ym mis Tachwedd 2011, 27 o gontractau gyda sicrwydd ansawdd a roddir, ac mae 109 o aelodau gan NTfW.

Nid yw’r NTfW yn synnu o weld y gostyngiad yn nifer y darparwyr sy’n dal contractau uniongyrchol. Yn wir, lluniodd y Ffederasiwn nifer o argymhellion i APADGOS eu hystyried cyn comisiynu gwaith cyflenwi dysgu seiliedig ar waith ar gyfer y cyfnod rhwng Awst 2011 a Gorffennaf 2013. Rhaid canmol y rhwydwaith am y ffordd y mae wedi ymateb gan ymdrechu i gyflenwi’r rhaglenni mewn ffordd gydgysylltiedig, heb amharu ar y dysgwyr mewn cyfnod o newid mor fawr.

Yn fy marn i, mae angen cyfnod sefydlog ar y rhwydwaith yn awr fel y gall fwrw golwg dros y rhaglenni cyflenwi a gwneud y buddsoddiadau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal yr ansawdd, yn enwedig ym maes datblygu staff gyda’r nod o sicrhau sgiliau lefel uwch.

Mae’n hollbwysig bod ein staff yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau fel y gallant eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Un ffordd ardderchog o wneud hyn yw cynnal cystadlaethau sgiliau, nid ar gyfer dysgwyr yn unig ond ar gyfer hyfforddwyr a mentoriaid hefyd. Gan fod gennym arweinyddion sgiliau yng Nghymru sydd gyda’r gorau yn y byd, dylem fanteisio ar y cyfle i wella sgiliau’n gweithwyr.

Rwy’n croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru o gymwysterau ac yn gobeithio y bydd yn golygu bod ein rhwydwaith yn treulio mwy o amser yn canolbwyntio ar sgiliau lefel uwch yn hytrach nag ar faterion adferol, fel rhifedd a llythrennedd.

Rydym wedi datblygu brand cryf ymhlith ein rhanddeiliaid ond mae angen i ni gyflwyno’r brand i’r gymuned ehangach gan ddatgan yn gryf bod angen gwella gwerth hyfforddiant galwedigaethol, yn enwedig brentisiaethau, a’i gwneud yn fwy hygyrch.

Yn olaf, bydd yr adolygiad o gyfansoddiad NTfW yn arwain at symud y Ffederasiwn ymlaen i’r lefel nesaf lle bydd ganddo ran ganolog yn y gwaith o lunio polisïau a threfniadau ar gyfer sgiliau a swyddi, gyda’r nod cyffredinol o uwchraddio sgiliau er mwyn rhoi hwb i fenter, twf economaidd cynaliadwy a chreu swyddi.

More News Articles

  —