Pob Cam

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Person holding certificate

Angharad Evans, Rheolwr Prosiect Sgiliau a Chyflogadwyedd Graddedigion
Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru

Yn ddiweddar, cynhaliodd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru ymgyrch o’r enw ‘Pob Cam’ ar y cyfryngau cymdeithasol. Ein nod oedd pwysleisio hyn: pa lwybr bynnag y dewiswch ei ddilyn yn eich addysg neu’ch gyrfa, does dim llwybr anghywir – a dwi’n meddwl ein bod wedi llwyddo i wneud hynny!

Er mai hwn oedd y tro cyntaf i ni gynnal ymgyrch fel hyn, cawsom ymateb ysgubol. Roedd yn eithriadol o galonogol bod cynifer o bobl yn barod i roi cipolwg i ni ar eu bywyd gwaith – rhai wedi cael gyrfa hir ac eraill newydd ddechrau gweithio.

Yn ystod yr ymgyrch, rhannwyd llu o straeon gan bobl o bob cefndir, yn dathlu gyrfaoedd llwyddiannus ac yn ysbrydoli. Yn ogystal â’n cydweithwyr ym Mwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cafwyd straeon gan ein partneriaid yn cynnwys y DWP, yr FSB ac M-SParc. Roeddem hyd yn oed yn ddigon ffodus i glywed gan gyflwynwyr ‘Heno’, Owain Jones ac Elin Fflur!

Mae’r straeon a rannwyd wedi dangos nad oes unrhyw yrfa yn rhedeg mewn llinell syth, a bod y newidiadau mwyaf mewn gyrfaoedd yn dod o ganlyniad i fachu cyfleoedd a gwthio’ch hun allan o le cysurus. Roedd ymgyrch ‘Pob Cam’ yn gyfle gwych i ddwyn y straeon hyn ynghyd gyda’r nod o normaleiddio newid ein gyrfa neu ddychwelyd i addysg beth bynnag ein hoedran.

Cafwyd stori arbennig gan Sarah Schofield a ddechreuodd ar ei thaith ym myd gwaith yn ‘gwerthu donuts’ ond a symudodd ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr ‘Adra’. Mae taith Sarah wedi dangos nad man cychwyn ein taith sy’n penderfynu beth fydd ein gyrfa derfynol, cyn belled â’n bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu o’r profiadau a gawn.

Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn dod ynghyd i ddweud pa mor bwysig yw cofleidio ein llwybrau gyrfa. Yn awr, yn enwedig wrth i’n heconomi gryfhau ar ôl COVID, roedd yn teimlo’n dda cael edrych yn ôl ar ein gyrfaoedd hyd yma trwy ein hymgyrch ‘Pob Cam’. Roeddem yn awyddus i gychwyn sgwrs a fyddai’n dathlu’r hyn roedd pawb wedi’i gyflawni a’r cerrig milltir roeddent wedi’u cyrraedd gan fod pob cam yn cyfrif. Rwy’n credu ein bod wedi llwyddo i wneud hyn gan fod pobl wedi rhannu straeon a gyrfaoedd mor amrywiol.

Ar ôl wythnos lwyddiannus o glywed cynifer o straeon ysbrydoledig, rydym eisoes wedi cael ymateb da, yn dweud pa mor bwysig yw rhannu hanes ein gyrfaoedd er mwyn atgoffa pobl nad oes llwybr anghywir a bod pob cam yn cyfrif ar gyfer ein dyfodol. Gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i ysbrydoli unigolion sy’n ansicr pa lwybr y maent am ei ddilyn.

Gobeithio y gallwn gynnal yr ymgyrch eto y flwyddyn nesaf gyda’r nod o fod yn fwy ac yn well!

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

More News Articles

  —