Cymru’n Dathlu Manteision Prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn galw ar bobl o bob maes yng Nghymru i helpu i godi proffil prentisiaethau.

Ar drothwy Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2011, Chwefror 7-11, cyhoeddodd Arwyn Watkins: “Mae mwy a mwy o fusnesau ledled Cymru’n sylweddoli cymaint o fanteision sydd i brentisiaethau, nid yn unig o ran creu gweithlu medrus ond hefyd trwy wneud busnesau’n fwy cynhyrchiol a helpu i gadw staff yn hirach.

“Mae gwaith ymchwil yn dangos eu bod yn ffordd ardderchog o hyfforddi, datblygu a gwella sgiliau pobl ar gyfer y dyfodol, gan helpu busnesau i sicrhau cyflenwad o bobl â’r sgiliau a’r nodweddion angenrheidiol, nad ydynt ar gael yn aml yn y farchnad swyddi allanol.

“Ein nod yw tynnu sylw at ddoniau a medrau’r 17,000 o brentisiaid sydd yng Nghymru a dathlu gwerth prentisiaethau mewn llu o wahanol sectorau.

“Rydyn ni am weld prentisiaid, cyflogwyr, darparwyr, rhieni, rhanddeiliaid a dysgwyr yn helpu i roi’r gair ar led am werth prentisiaethau. Mae’r unigolyn, y cyflogwr ac economi Cymru yn elwa o brentisiaethau ac mae ’na lu o lwyddiannau y gallwn sôn amdanynt.

“Mae gan y system addysg ran allweddol i’w chwarae yn rhoi gwybod i bobl ifanc am brentisiaethau fel un o’r dewisiadau cyffrous sydd ar gael iddynt ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg.

“Mae’n helpu pobl i symud yn esmwyth o addysg i waith. Pan fydd pobl ifanc y tu allan i’r system honno, y perygl yw ei bod yn anodd eu cael yn ôl. Ar hyn o bryd, mae prentisiaid Cymru yn 26 oed ar gyfartaledd ac mae angen i ni ddod â hynny i lawr i 22 er mwyn cael yr effaith orau.

“Rydym yn ffodus bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydnabod prentisiaethau fel un o’i rhaglenni blaenllaw. Mae NTfW yn chwarae ei ran hefyd trwy sicrhau’r gyfradd orau yn y DU ar gyfer cwblhau fframweithiau prentisiaeth, tua phedwar y cant yn uwch na Lloegr.”

Pwysleisiodd bod llawer o gyflogwyr yng Nghymru yn awyddus i “dyfu eu gweithwyr eu hunain” trwy brentisiaethau.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn bod prentisiaethau yn hybu sylfaen sgiliau hanfodol y genedl i’r dyfodol, yn ysbrydoli llwyddiant mewn unigolion ac yn sicrhau manteision enfawr i’r gweithle. Mae cymaint ag 81 y cant o fusnesau’n dweud bod cyflogi prentisiaid yn gwneud eu gweithle’n fwy cynhyrchiol.

Mae prentisiaethau yng Nghymru’n agored i bawb – dysgwyr ifanc neu bobl sy’n awyddus i newid gyrfa. Gallwch ddysgu yn y gwaith a dysgu sgiliau ychwanegol gan ddarparwr hyfforddiant.

Nod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yw dangos bod prentisiaeth yn ffordd ardderchog i gychwyn gyrfa lwyddiannus a symud ymlaen ynddi. Bydd cwmnïau’n dangos sut a pham y mae prentisiaethau’n lles i’w busnes.

Mae’r NTfW yn cynnwys 97 o ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd a chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru.

More News Articles

  —