Dysgu Seiliedig Ar Waith Yn Hanfodol i Gynlluniau’r Cynulliad, medd Gweinidog

Postiwyd ar gan karen.smith

Gweinidog Cymru dros blant, addysg a dysgu gydol oes, Leighton Andrews, yn annerch y cyfarfod.

Mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews, wedi addo i amddiffyn sgiliau ac ysgolion wrth i Lywodraeth Cynulliad Cymru wneud toriadau i’r gyllideb.

Yn ei anerchiad yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn The Vale Resort, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd bod gan y Cynulliad ymrwymiad i ddysgu seiliedig ar waith sydd, yn ei farn ef, yn rhan ganolog o’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi.

Trawsnewid Gwaith Cyflenwi Sgiliau yng Nghymru oedd thema’r gynhadledd a ddenodd ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru.

“Credwn fod sgiliau’n hanfodol er mwyn hybu twf economaidd a sicrhau cymdeithas decach,” meddai. “Rydym wedi dweud ein bod yn bwriadu gwneud ein gorau i amddiffyn sgiliau ac ysgolion ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y gwaith a wnaethom ar y gyllideb.

“Mae arnom angen system addysg a hyfforddiant sy’n helpu pobl i lwyddo ac i fod yn barod ar gyfer byd gwaith. Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhan hanfodol o hyn.”

Roedd yn dymuno canmol NTfW am ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol i agenda drawsnewid y Cynulliad a’r ymdrrech i gael mwy o gydweithio rhwng darparwyr dysgu er mwyn lleihau dyblygu gwaith, bod yn fwy effeithlon ac arloesol a rhannu arferion gorau er mwyn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr.

Roedd ganddo ganmoliaeth hefyd ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru am sicrhau bod 75 y cant o bobl yn cwblhau eu Fframwaith Prentisiaeth, sef pedwar y cant yn uwch na rhannau eraill y DU.

“Mewn amserau anodd, mae’n bwysig sicrhau ein bod yn cael gwerth ein harian,” meddai. “Mae ‘na elfennau aneffeithiol yn y system addysg sy’n atal arian rhag cyrraedd y rheng flaen. Bydd yn cymryd amser i gael gwared â’r rhain ond fe wnawn ni weithio trwyddynt yn eu trefn.”

Datgelodd fod y Cynulliad yn gwerthuso 48 o dendrau ar gyfer cyflenwi hyfforddiant o Awst 2011 ymlaen ac y byddai’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Siaradwyr yng nghynhadledd NTfW (o’r chwith): rheolwr cyffredinol NTfW, Alun Davies; cyfarwyddwr manwerthu S. A. Brain & Co Ltd, Philip Lay; cadeirydd NTfW, Arwyn Watkins; cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Janet Jones; Dr Geoff Hayward a llywydd NTfW, yr Arglwydd Ted Rowlands.

Llongyfarchwyd aelodau NTfW gan y Cadeirydd, Arwyn Watkins, am sicrhau bod cyfran uwch yn cwblhau eu Fframwaith Prentisiaeth yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU. Aeth ati i’w hannog i weithio’n galed i wella’r sefyllfa eto fel bod dysgu seiliedig ar waith yn cael yr un parch â dysgu ar gyrsiau academaidd.

Galwodd Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, am gladdu’r syniad bod cymwysterau academaidd yn well na rhai galwedigaethol ac aeth ymlaen i annog y Cynulliad i roi rhagor o bwyslais ar sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn galw amdanynt.

“Mae’n drychineb bod cymwysterau galwedigaethol wedi bod yn cael eu cyfrif yn ail orau ers blynyddoedd,” meddai wrth y gynhadledd. “Mae’n drychineb i bobl ifanc sy’n teimlo ei bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn y llwybr academaidd er mwyn cael bywyd hapus a bodlon; ac yn drychineb i ddiwydiant ym Mhrydain, yn enwedig i fusnesau bach, lle gallai gweithwyr â hyfforddiant galwedigaethol wneud byd o wahaniaeth.

“Mae angen cyfuniad o sgiliau academaidd a rhai galwedigaethol ar bob busnes. Dyna’r neges y mae angen i ni ei chyfleu os ydym am berswadio pobl o bob cefndir i roi ystyriaeth ddifrifol i gymwysterau galwedigaethol.”

Dywedodd Llywydd NTfW, yr Arglwydd Ted Rowlands, ei bod yn bwysig i’r Cynulliad ac i’r aelodau ganolbwyntio ar ymestyn allan at bobl ifanc 16-19 oed sydd mewn gwaith ond nad ydynt yn dilyn unrhyw hyfforddiant. Cenhadaeth NTfW oedd sicrhau bod pobl yn cyrraedd eu nod mewn bywyd, meddai.

Pwysleisiodd hefyd na ddylai’r Cynulliad syrthio i’r fagl o gredu bod pob gwariant cyhoeddus yn beth drwg. “Dydi hynny ddim yn wir o gwbl a dylem gyhoeddi hynny’n glir,” meddai. Mae gwariant cyhoeddus yn beth da iawn os caiff ei wario ar sgiliau.”

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Philip Lay, cyfarwyddwr manwerth S. A. Brain & Co Ltd. Teitl ei anerchiad ef oedd “Training: a real cost or a serious investment”. Dywedodd fod cwmnïau ledled Cymru’n gorfod pwyso a mesur ai cost neu fuddsoddiad i’r busnes oedd hyfforddiant.

Roedd yn bendant o’r farn y dylai’r Cynulliad symleiddio’r cymorth sydd ar gael i fusnesau lletygarwch yng Nghymru. Mae’r cwmni amlweddog wedi datblygu partneriaethau arloesol gyda darparwyr dysgu i gyflenwi hyfforddiant ym meysydd e-farchnata, sgiliau cogyddion, gwybodaeth am gynnyrch, gwerthiant a lletygarwch.

Daeth y gynhadledd i ben ag anerchiad gan Dr Geoff Hayward, cyfarwyddwr ymchwil, cyfarwyddwr cyswllt SKOPE a darllenydd mewn addysg yn Adran Addysg Prifysgol Rhydychen.

Gofynnodd y cwestiwn ‘Beth yw pwrpas addysg a hyfforddiant galwedigaethol?’ ac aeth ymlaen i herio canlyniadau rhaglenni hyfforddi a dweud nad oedd gwneuthurwyr polis wedi dysgu gwersi’r gorffennol.

More News Articles

  —