Cynhadledd Cyflogadwyedd: Gogledd Cymru Wydn

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

. Ch-Dd: Y Cyng Dyfrig Siencyn, Cadeirydd BUEGC ac Arweinydd Cyngor Gwynedd; David Roberts, Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol; Ken Skate, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Thomas Thomas, a fu’n cynrychioli Coleg Meirion Dwyfor yn WorldSkills International yn Rwsia.

Bu staff rheng flaen o’r gogledd mewn cynhadledd ar-lein a drefnwyd er mwyn ymateb i heriau sicrhau gwaith ar gyfer pobl y rhanbarth.

Trefnwyd y gynhadledd gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol gyda’r nod o helpu’r 150 o staff rheng flaen i sicrhau bod gogledd Cymru’n dod yn fwy gwydn. Roedd yn gyfle i drafod cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd a rhwystrau posibl hefyd.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol a’r Gynhadledd: “Daeth eleni â nifer o heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. O safbwynt economaidd, byddwn yn delio â hyn am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd, felly mae dod ynghyd i lunio cynllun gweithredu yn hanfodol i bob sector.

“Yn ystod y cyfnod anodd yma mae angen undod llwyr a llwybr clir ar gyfer unrhyw un sydd wedi colli ei swydd neu sy’n dymuno newid gyrfa oherwydd yr hinsawdd ariannol presennol,”.

Ymhlith y cyrff eraill a gynrychiolwyd ac a roddodd gyflwyniadau ar y dydd roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), ACAS a Cyngor ar Bopeth, Sir Ddinbych. Y nod oedd cyflwyno arferion gorau a chynnig technegau fel y gall staff rheng flaen hybu cyflogadwyedd yn y rhanbarth yn wyneb yr heriau newydd sy’n codi oherwydd y pandemig.

Yn ogystal, cafwyd y newyddiion diweddaraf am yr heriau yn y rhanbarth gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd y prif anerchiad gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r rhain yn amseroedd eithriadol o heriol ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu mewn sawl ffordd i roi cymorth i fusnesau ac unigolion.

“Rwy’n llongyfarch y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol am ddod â holl bartneriaid allweddol y gogledd ynghyd yn y digwyddiad hwn. Mae ymdeimlad cryf o gydweithredu yn y rhanbarth ac rwy’n cymeradwyo hynny’n llwyr wrth i ni gydweithio i gefnogi’r bobl sy’n cael eu taro waethaf gan y pandemig.”

Yn ogystal, roedd cyfle i’r staff rheng flaen ofyn cwestiynau neu gyflwyno’u pryderon i’r cyflogwyr a’r sefydliadau oedd yn bresennol.

Roedd aelod o staff un o wasanaethau ieuenctid y rhanbarth yn y Gynhadledd ac meddai:“Roedd y gynhadledd yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol. Mi ddysgais i lawer am y rhwystrau i gyflogadwyedd ar hyn o bryd a’r gefnogaeth sydd ar gael er mwyn ymateb iddynt a’u goresgyn.”

Yn ogystal, dywedodd un o weithwyr sefydliad hyfforddi cenedlaethol, “Roedd yn wych gweld y cydweithrediad a’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud yn y gogledd.”

Roedd y Gynhadledd yn un o nifer o ddigwyddiadau tebyg a drefnir gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol er mwyn ymateb i gyfleoedd ar gyfer sgiliau yn yr ardal.

Os hoffech wybod mwy am ddigwyddiadau eraill a drefnir gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, dilynwch @SkillsNWales ar Twitter.

Wefan: northwaleseab.co.uk/cy/swyddi-sgiliau/partneriaeth-sgiliau-rhanbarthol

More News Articles

  —