Cynhadledd i Drafod yr Her sy’n Wynebu Darparwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

Cyflenwi sgiliau sy’n gweithio i Gymru mewn hinsawdd economaidd anodd fydd y prif bwnc trafod wrth i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith grynhoi yn y Celtic Manor, Casnewydd ar gyfer cynhadledd fawr ar 22 Hydref.

Eleni, cynhelir y gynhadledd flynyddol a drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) mewn cyfnod pan fo’r gyllideb dysgu seiliedig ar waith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn lleihau.

Ond mae’r Cadeirydd, Arwyn Watkins, o’r farn fod rhwydwaith NTfW mewn sefyllfa gref i wynebu’r her ac mae’n galw am gydweithio i wella effeithlonrwydd a lleihau biwrocratiaeth rhag i’r dysgwyr fod ar eu colled.

“Rŷn ni’n sylweddoli bod angen i Lywodraeth y Cynulliad leihau’r gyllideb a bod y sefyllfa’n debygol o waethygu, ond mae’n rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod yn cwrdd â’r cynnydd yn y galw gan ddysgwyr heb i’r safon ostwng,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni, y darparwyr dysgu, fod yn agored i newid ac mae angen i’r sector cyfan yng Nghymru gydweithio. Mae sefyllfa dysgu seiliedig ar waith wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf ac rŷn ni mewn sefyllfa gref i gwrdd â’r heriau newydd trwy ddefnyddio’r rhwydwaith ardderchog sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd.”

Mr Watkins yw rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac mae’n annog Llywodraeth y Cynulliad i fanteisio i’r eithaf ar ei phartneriaeth gydag aelodau NTfW ac i fwrw golwg dros yr holl raglenni er mwyn cael y budd mwyaf o’r buddsoddiad trwy leihau biwrocratiaeth.

Dywedodd na ddylai’r un darparwr dysgu sy’n poeni a gyflenwi sgiliau sy’n gweithio i Gymru golli cynhadledd flynyddol NTfW ar y thema ‘Cyflenwi Sgiliau er mwyn Goroesi a Ffynnu’.

John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth y Cynulliad fydd un o’r prif siaradwyr. Ymhlith y siaradwyr eraill fydd Arwyn Watkins, yr Arglwydd Ted Rowlands, Llywydd NTfW, Dennis Gunning, Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth y Cynulliad, Syr Adrian Webb, Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, Janet Barlow, Prif Weithredwr Agored Cymru, a Michelle Creed, Cyfarwyddwr Lifelong Learning UK yng Nghymru. . Y cyflwynydd fydd Sally Challoner, sy’n gyflwynydd teledu.

Yn y prynhawn cynhelir cyfres o chwe gweithdy i drafod sicrhau rhaglenni dysgu seiliedig ar waith yn y dyfodol, cynnal Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, y System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol, yr heriau sy’n wynebu canolfannau wrth gynnig prentisiaethau, llwyddiant a meincnodi dysgwyr, a datblygu rheolwyr.

Mae’r NTfW yn rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd, sy’n gweithio o dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflenwi gwerth £116 miliwn o raglenni dysgu seiliedig ar waith o ddyraniad cyfan o £126 miliwn. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys darparwyr dysg yn y sector preifat, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, elusennau a’r sector gwirfoddol.

Os hoffech gadw lle yn y gynhadledd, gallwch e-bostio ntfwevent@cazbah.biz neu ffonio 0844 736 2651.

More News Articles

  —