Cyflenwi sgiliau i oroesi a ffynnu

Postiwyd ar gan karen.smith

A Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn paratoi i gynnal ei gynhadledd flynyddol yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 22 Hydref, dyma air gan y Cadeirydd, Arwyn Watkins, am yr heriau sy’n wynebu dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Mae’n fraint i mi gael cadeirio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sef rhwydwaith o 83 o ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd, sy’n gweithio o dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflenwi gwerth £116 miliwn o raglenni dysgu seiliedig ar waith allan o ddyraniad cyfan o £126 miliwn. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys darparwyr dysgu yn y sector preifat, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, elusennau a’r sector gwirfoddol.

Rydym yn dod i gysylltiad uniongyrchol o ddydd i ddydd â dros 30,000 o fusnesau cofrestredig yng Nghymru, gan gyflenwi dysgu a sgiliau i dros 40,000 o bobl. Felly, mae gan rwydwaith NTfW ddealltwriaeth ddofn o anghenion a gofynion cyflogwyr gan ein bod yn cyflenwi cymwysterau dysgu seiliedig ar waith o Lefel Mynediad i Lefel 5. Mae’r trefniant hwn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy hwylus i bobl fanteisio ar drefniadau dysgu na phan geir cyfleusterau sefydlog, parhaol. Mae hefyd yn fwy cynhwysol ac yn cynnig mwy o ddewis.

Mae prentisiaethau’n rhan allweddol o ddysgu seiliedig ar waith sydd, erbyn hyn, yn cael ei gyfrif yn ffordd hanfodol o sicrhau bod gan y gweithlu y sgiliau anghenrheidiol fel y gall Cymru gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang. Ar yr un pryd, caiff ei gam-ddeall gan lawer – nid yn unig gan bobl sydd heb gysylltiad â dysgu seiliedig ar waith, ond gan lawer o’r bobl allweddol sy’n ymwneud â datblygu a chyflenwi’r ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru, a hyd yn oed rai sy’n cydweithio â’r sector neu’n gweithio ynddo.

Mae darparwyr hyfforddiant yn cynnig gwasanaethau i gyflogwyr sy’n mynd ymhell y tu hwnt i gyflenwi hyfforddiant i’w prentisiaid – ac mae hynny, ynddo’i hunan, yn wasanaeth sy’n gofyn am arbenigedd mawr. Yn aml, mae’n golygu dwyn ynghyd raglenni hyfforddiant cymhleth a sicrhau eu bod yn cael eu cyflenwi’n effeithiol. Ychydig iawn o gyflogwyr, yn enwedig BBaChau, sydd â’r arbenigedd i wneud hyn yn fewnol. Nid dyna yw eu prif faes, wedi’r cyfan.

Efallai y bydd llawer yn synnu, ond darparwyr hyfforddiant sy’n gwneud gwaith personél i rai cyflogwyr, gan gymryd cyfrifoldeb dros recriwtio, dewis a chyflwyno prentisiaid i’r gwaith. Mae hwn yn wasanaeth allweddol y mae angen ei gynnal ac adeiladu arno er mwyn sicrhau bod y polisi trawsnewid yng Nghymru yn cyflawni ei amcan ym myd gwaith.

Caiff elfennau gwerth-ychwanegol fel hyn eu hanwybyddu i raddau helaeth gan adrannau allweddol yn y Cynulliad, fel yr Adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Felly, wrth gynllunio ymlaen, mae’r rhain yn cael eu peryglu wrth ddatblygu strategaeth ar gyfer dyfodol dysgu seiliedig ar waith a’r rhwydwaith o ddarparwyr.

Er gwybodaeth, mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 68% o bobl yn cwblhau eu Fframwaith Prentisiaeth dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru erbyn hyn, y gyfradd gwblhau uchaf yn y DU.

Yn fy marn i, dysgu seiliedig ar waith yw rhaglen ddysgu fwyaf hyblyg ac ymatebol Llywodraeth y Cynulliad. Mae APADGOS yn aml yn gofyn i’r rhwydwaith addasu’r gwaith cyflenwi dysgu yn unol â blaenoriaethau newydd sy’n ymddangos oherwydd newidiadau yn economi Cymru a’r gymdeithas yn gyffredinol. Nid oes yr un maes dysgu arall a ariannir gan APADGOS yn gallu ymateb cystal a, thrwy fod yn hyblyg fel hyn, gellir darparu’r sgiliau y mae ar fusnesau, diwydiannau, dysgwyr a chymunedau eu hangen.

Un rheswm pam y gall y rhwydwaith fod mor hyblyg ac ymatebol yw bod darparwyr sector preifat yn chwarae rhan amlwg ynddo a’u bod nhw’n hyblyg ac ymatebol wrth natur. Rhaid cofio hefyd bod darparwyr yn y trydydd sector yn gallu cyrraedd a denu rhai o’r bobl a’r cymunedau sydd ar gyrion cymdeithas. Gwaetha’r modd, nid yw’r cryfderau mawr hyn yn cael eu deall, eu cydnabod na’u defnyddio’n iawn fel rhan o’r gwaith cynllunio strategol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol na lleol.

Fe wnaeth Estyn, hyd yn oed, nodi’r gwendid hwn yn Adroddiad Blynyddol 2007-08 ynghylch y Partneriaethau 14-19: “Nid yw rhai Rhwydweithiau 14-19 yn talu digon o sylw i ddysgu seiliedig ar waith ac nid ydynt yn gwneud digon i gynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith”. Mae’n hanfodol nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n caniatáu i’r diffyg cydnabyddiaeth hwn olygu eu bod yn colli cyfle i drawsnewid dysgu yng Nghymru.

Rwyf wedi gweld newidiadau enfawr yn y sector dysgu seilieidig ar waith ers i mi ddychwelyd i Gymru ym 1998. Nid yw’r un sector dysgu arall wedi newid cymaint nac wedi ymateb mor sydyn a llwyddiannus i heriau ad-drefnu. Mae’r datblygiad hwn wedi gadael y sector dysgu seiliedig ar waith mewn sefyllfa gref, ar flaen y gad wrth gyflenwi dysgu trwy lu o wahanol gyfryngau fel y gellir diwallu anghenion dysgwyr, cymunedau a busnesau yn y ffordd orau.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod APADGOS newydd gymeradwyo cynnig Partneriaeth Ddysgu NTfW i drawsnewid y ddarpariaeth trwy wneud gwaith cyflenwi dysgu yn fwy effeithiol, effeithlon ac ymatebol. Nod y bartneriaeth yw ehangu’r dewis i ddysgwyr, lleihau dyblygu diangen yn y ddarpariaeth a sicrhau rhagoriaeth ar draws y rhwydwaith o ddarparwyr. Rydym yn croesawu cefnogaeth APADGOS a’r cyfle a ddaw yn sgil hyn i NTfW ddylanwadu ar ddatblygiad y rhwydwaith dysgu wrth i gynlluniau i drawsnewid y ddarpariaeth gael eu gweithredu.

Hoffwn ddiolch i’r cyflogwyr sy’n ymroi i weithio mewn partneriaeth ag aelodau NTfW. Rydym yn rhannu’r un nod: codi lefelau sgiliau a rhoi cyfle i bobl sy’n newydd i’r farchnad lafur a phobl sydd eisoes yn gweithio i ddatblygu sgiliau, fel y gallant ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau a fydd yn hwb iddynt yn eu gyrfa.

Rydym ar drothwy cyfnod anodd iawn, gyda chynnydd yn nifer y bobl ifanc o dan 25 oed sy’n ddi-waith. Er mwyn ymateb i’r her hon, mae’n rhaid wrth ymdrech fawr gan bob sector ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae gennym berthynas dda gyda chyflogwyr. Hebddyn nhw, bydd ein holl ymdrechion i drawsnewid yn methu. Rŷn ni’n barod i wynebu’r her. Ydych chi?

More News Articles

  —