Cynhadledd i ganolbwyntio ar rôl allweddol dysgu seiliedig ar waith mewn adfywio economaidd

Postiwyd ar gan karen.smith

Bydd cynrychiolwyr mewn cynhadledd bwysig yn cael gwybod yn nes ymlaen y mis hwn ei bod hi’n bryd i’r sector dysgu seiliedig ar waith gymryd ei le’n hyderus yng nghanol yr agenda adfywio economaidd yng Nghymru.

Thema cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) eleni yng ngwesty’r Celtic Manor Resort ar 31 Hydref fydd ‘Adeiladu dyfodol cynaliadwy i bawb’.

Daw’r gynhadledd ar adeg pan fo darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn wynebu sifft ddiwylliannol o raglenni hyfforddiant wedi’u harwain gan gyflenwad i rai sy’n cael eu gyrru gan alw. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau cydfuddsoddiad a sefydlogrwydd i fuddsoddi mewn sgiliau ar sail galw economaidd a busnes.

Mae’r NTfW yn rhwydwaith o dros 100 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ansawdd sicr gyda chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru. Amrywia’r aelodau o ddarparwyr hyfforddiant arbenigol bach i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau trydydd sector.

“Cydnabyddir ar raddfa eang fod y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi gwneud camau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ran trawsnewid, ansawdd y cyflwyno ac ymatebolrwydd cyffredinol i fodloni gofynion cynyddol unigolion, cyflogwyr a gwneuthurwyr polisi,” meddai Jeff Protheroe, rheolwr gweithrediadau’r NTfW. “Fodd bynnag, mae’r heriau sydd o flaen y sector yn y blynyddoedd nesaf yn parhau i fod mor ymestynnol ag erioed.

“Wrth i’r sector ddechrau paratoi ei hun i gyflwyno model cyflwyno symlach a fydd yn osgoi problemau dyblygu a chystadleuaeth, mae hi bellach yn bryd i’r sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru gymryd ei le’n hyderus yng nghanol yr agenda adfywio economaidd a chyflwyno portffolio rhaglenni mwy cydlynol ac integredig ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, sy’n adeiladu dyfodol cynaliadwy i bawb.”

Bydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn awyddus i glywed yr hyn sydd gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James i’w ddweud yn ei haraith fawr gyntaf i’r sector ers cymryd dros swydd Ken Skates fis diwethaf.

Ymhlith y siaradwyr cyweirnod eraill mae Arwyn Watkins, prif weithredwr NTfW, Andy Middleton, entrepreneur cymdeithasol a sylfaenydd-gyfarwyddwr Grŵp TYF, yr Athro Brian Morgan, Athro Entrepreneuriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd a chyfarwyddwr ei Chanolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter ac Andrew Clark, dirprwy gyfarwyddwr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynrychiolwyr yn gallu mynychu cyfres o weithdai yn ystod y prynhawn dan arweiniad staff uwch Llywodraeth Cymru. Mae’r siaradwyr yn cynnwys Marion Jebb, pennaeth rheoli ansawdd a data ôl-16, Marilyn Wood, uwch reolwr polisi ansawdd ac effeithiolrwydd, Kara Richards, pennaeth y gangen ymgysylltiad ieuenctid, Nick Srdic, pennaeth y gangen gyflogaeth i bobl ifanc, Mike Hatcher, pennaeth cymhwyster Bagloriaeth Cymru a sgiliau a Hazel Israel, uwch reolwr Bagloriaeth Cymru a sgiliau hanfodol.

Arweinwyr eraill ein gweithdai yw Leon Patnett, pennaeth polisi Gyrfa Cymru ar gyfer gwasanaeth i gleientiaid yn y farchnad lafur a Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW.

Mae’r gynhadledd yn rhagflaenu cinio cyflwyno Gwobrau Prentisiaeth Cymru. Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r NTfW. Noddir y gynhadledd a’r gwobrau gan Pearson PLC a’i bartner yn y cyfryngau yw Media Wales.

Gellir cadw tocynnau am y gynhadledd ar-lein yn https://www.ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw/ neu drwy gysylltu â Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTfW, ar y Ffôn: 02920 495861.

More News Articles

  —