Cynhadledd yn rhoi pwyslais ar ddiogelu dyfodol dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Diogelu dyfodol rhaglenni dysgu seiliedig ar waith mewn cyfnod o newid fydd thema heriol cynhadledd o bwys yng Nghaerdydd fis nesaf.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli dros 100 o sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle yng Nghymru, wedi llwyddo i ddenu nifer o siaradwyr o fri i’r gynhadledd yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd ar 24 Tachwedd.

“Mewn blwyddyn a welodd newid anghyffredin yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop, mae un peth yn sicr. Mae prentisiaethau a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith yn ennill eu plwyf fel ffordd allweddol o sicrhau llwyddiant economaidd i unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru yn gyffredinol,” meddai Sarah John, cadeirydd bwrdd NTfW.

“Fel sector, rydym wedi profi ein bod yn gallu addasu i newid fel bod ein rhaglenni a’n dulliau cyflenwi yn ateb gofynion llawer o bobl. Wrth edrych ymlaen at gyfnod arall o newid mawr i’r sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni fel rhwydwaith yn chwarae rhan ganolog yn y newid hwnnw, ac nad ydym yn eistedd yn ôl gan adael i’r newid olchi drosom. Yn wir, mae’n rhaid i ni ddiogelu ein dyfodol mewn cyfnod o newid.

“Mae’n bwysig iawn bod unrhyw un sy’n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac sy’n awyddus i gael gwybod am bolisïau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dod i’r gynhadledd. Bydd y cynadleddwyr yn cael clywed siaradwyr o bwys a mynd i weithdai a fydd yn arbennig o berthnasol i’r sector. Bydd cyfle ardderchog hefyd i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau o’r sector hyfforddi yng Nghymru.”

Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn rhannu’r llwyfan â Sarah John; dirprwy lywydd UCMC, Carmen Smith; Alex Rollason o dîm arweinyddiaeth Cymdeithas Genedlaethol Prentisiaid Cymru; Huw Morris, cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru a Tony Wilson, cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Bydd gan y cynadleddwyr ddewis diddorol o weithdai i fynd iddynt yn ystod y dydd hefyd. Bydd cyfarwyddwr strategol Estyn, Simon Brown yn canolbwyntio ar y newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r drefn arolygu yng Nghymru o fis Medi’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Dywed yr NTfW y bydd y gweithdy’n rhoi cyfle i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith i gyfrannu at gyfnod ymgynghori Estyn ac i baratoi ar gyfer arolygiadau yn y dyfodol.

Bydd cynrychiolwyr o gyrff dyfarnu yng Nghymru yn arwain gweithdy ar newidiadau arwyddocaol a gafwyd yn ddiweddar i gymwysterau diwygiedig Sgiliau Hanfodol Cymru, gyda’r nod o sicrhau bod gan ddysgwyr a chyflogwyr fwy o ffydd ynddynt a’u bod yn eu gwerthfawrogi fwy.

Sicrhau bod y model prentisiaethau’n diwallu anghenion economi Cymru fydd pwnc Christopher Hare, uwch reolwr polisi prentisiaethau Llywodraeth Cymru, a bydd Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW a Richard Evans, Cangen y Gymraeg mewn Addysg, AdAS, yn canolbwyntio ar ddiogelu dyfodol siaradwyr Cymraeg mewn cyfnod o newid.

Bydd Hayden Llewellyn, prif weithredwr ac Elizabeth Brimble, dirprwy brif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC), yn sôn wrth y cynadleddwyr am ymdrechion Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i bob ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru i gofrestru gyda’r EWC o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.

Bydd Humie Webbe, hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth NTfW, yn arwain gweithdy ar ymateb yn ymarferol i her cydraddoldeb ac amrywiaeth a bydd ei chydweithwraig, Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith, yn canolbwyntio ar sicrhau rhagoriaeth a chael profiad da o ddysgu seiliedig ar waith.

Bydd gweithdai eraill yn trafod symud tuag at ddiwylliant digidol, dulliau a thechnegau dysgu cyfunol, a dysgu o’r broses werthuso a dylanwadu arni.

Gellir cadw llefydd yn y gynhadledd ar lein yn https://www.ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw/ffurflen-i-gadw-lle-a-rhaglen/ am gost o £195 i aelodau NTfW a £325 i eraill. Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle yw dydd Gwener, 4 Tachwedd.

More News Articles

  —