Prentis Uwch Jamie yn cyrraedd yr uchelfannau – Jamie Stenhoff

Postiwyd ar gan karen.smith

Jamie Stenhoff with Marshall Aviation Services Ltd head of design Trevor Ellis.

Jamie Stenhoff gyda phennaeth Marshall Aviation Services, Trevor Ellis.

Mae Jamie Stenhoff, peiriannydd dylunio afioneg, wedi cyrraedd yr uchelfannau trwy ddewis llwybr prentisiaeth i ddatblygu gyrfa gwerth chweil.

Pan wnaeth Jamie, sydd yn 21 oed o’r Fflint, wneud cais am Brentisiaeth Uwch mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Cymru) Lefel 4, roedd ganddo dair rhagoriaeth mewn Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg yng Nghampws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria ac roedd wedi ennill Myfyriwr y Flwyddyn o’r coleg a Chymdeithas Peirianwyr Gogledd Cymru.

Bellach, mae’n gweithio i Marshall Aviation Services, Maes Awyr Penarlâg, a chwblhaodd ei Ddiploma Estynedig NVQ Lefel 4 Gweithgynhyrchu Peirianneg mewn blwyddyn yn lle’r ddwy flynedd arferol.

Yn awyddus i ddilyn ôl troed ei dad a’i daid yn gwneud prentisiaeth, mae’n parhau â’i daith ddysgu trwy wneud gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mhrifysgol Caer ac mae’n bwriadu gwneud NVQ Gwella Busnes lefel 4 a gradd busnes yn y dyfodol.

Fel gwobr am ei ymroddiad, mae wedi ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Noddir y Gwobrau gan Pearson PLC gyda chymorth partner y cyfryngau, Media Wales.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn y gwaith, helpodd Jamie i uwchraddio system gymhleth rheoli teithiau awyrennau ar fflyd o awyrennau cyfres 146, gan gynorthwyo tîm y prosiect ac arbed 123 o oriau ar brosiect y Weinyddiaeth Amddiffyn trwy adolygu gweithdrefnau.

“Rwyf wedi ceisio cael y graddau uchaf posibl ym mhob agwedd ar fy Mhrentisiaeth, am y bydd hyn nid yn unig yn rhoi’r cymwysterau i mi gadw fy ngwaith ond hefyd mae’n rhoi’r wybodaeth sydd yn angenrheidiol i ffynnu mewn amgylchedd peirianneg,” dywedodd Jamie.

Dywedodd Trevor Ellis, pennaeth dylunio Marshall Aviation Services: “Mae Jamie wedi dangos gallu gwych a pharodrwydd i ddysgu, sydd yn union beth sydd ei angen gan brentis.”

Mi wnaeth Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, longyfarch Jamie a’r 32 ymgeisydd arall ar y rhestr fer. “Rydym yn falch o ddarparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell uwchlaw 80 y cant,” dywedodd.

“Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniad. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr, sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gefnogi eu prentisiaid, yr un mor bwysig.”

More News Articles

  —