Dathlu llwyddiannau ysbrydoledig yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

 

 

Bu cyfle i ddathlu agwedd ddeinamig cyflogwyr a darparwyr dysgu ledled Cymru at hyfforddiant a datblygu sgiliau a llwyddiannau ysbrydoledig unigolion pan gyhoeddwyd enwau enillwyr cystadleuaeth fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2016 neithiwr (Hydref 20).

Daeth rhai o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gorau Cymru, sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaethau, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru, ynghyd i’r seremoni wobrwyo yn Venue Cymru, Llandudno. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd tri deg chwech o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu disglair sydd ynghlwm wrth nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd rhestr fer y gwobrau pwysig, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddir y Gwobrau Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Bu’n noson lwyddiannus i Grŵp Llandrillo Menai wrth i asesydd, Mark McDonough, a dwy ddysgwraig, Cassidy Jones ac Angharad Jones, gasglu gwobrau.

Mark, 36 oed, o Ddinbych, enillodd wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith. Sefydlodd Brentisiaeth bwrpasol mewn Cynnal a Chadw a Gweithredu Tyrbinau Gwynt yng Nghymru mewn partneriaeth ag Innogy Renewables UK ac Isofab Limited/Vattenfall bedair blynedd yn ôl ac erbyn hyn mae’n teithio i ffermydd gwynt ledled y Deyrnas Unedig i asesu prentisiaid.

Cassidy, 17, o Fethesda, a gasglodd Wobr Dysgwyr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu). Yn ôl ei darparwr dysgu mae’n enghraifft wych o rywun yn “trechu ei thrafferthion”. Mae’n anelu at y nod o fod yn steilydd gwallt ar ôl goresgyn anawsterau enfawr, yn cynnwys marwolaeth ei thad a chael ei bwlio. Erbyn hyn mae’n gweithio i salon HQ ym Mangor ac mae’n symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Sylfaen.

Mae Angharad, 18, o’r Fali, Ynys Môn, a enillodd Wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1), wedi dangos bod mwy o ffyrdd o ddysgu nag arholiadau yn yr ysgol. Cafodd ei photensial llawn ei ddat-gloi ar leoliad gwaith yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni ac mae wrth ei bodd â’r ffordd y mae’n dysgu erbyn hyn.

Ar ôl dod yn agos at y brig y llynedd, daeth llwyddiant i Chris Hughes, 55 oed, sy’n gweithio i ACT Limited fel tiwtor y Sefydliaeth Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Eleni, ef gipiodd Wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae gan Chris, sy’n dod o Faesycwmer, dros 20 mlynedd o brofiad ym maes hyfforddi a datblygu ac mae’n gweithio gyda 180 o ddysgwyr ledled y de.

Aeth Gwobr Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru i Marc Pugh, 20 oed, o Lanfaredd ger Llanfair-ym-Muallt. Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi agor y drws i Marc ar yrfa’i freuddwydion. Mae wedi sicrhau swydd barhaol yn yr Happy Horse Retirement Home yng Nghrai ger Aberhonddu lle mae wedi ennill nifer o gymwysterau, wedi helpu i ehangu’r busnes ac yn gobeithio dod yn hyfforddwr marchogaeth cymwysedig.

Niall Perks, 20 oed, o Gaerdydd, a gymerodd Wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Mae wedi symud ymlaen o swydd ran amser mewn siop sglodion i yrfa addawol ym myd technoleg gwybodaeth a thelathrebu gyda chwmni SIPHON o Gwmbrân lle mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu. Gydag Acorn Learning Solutions y mae Niall yn dysgu ac enillodd fedal aur yn rowndiau WorldSkills UK ar gyfer Technegwyr Cymorth Uwch yn gynharach eleni.

Maria Brooks, 28 oed, o Borthcawl, y ferch gyntaf o oedolyn i’w derbyn yn brentis yng ngwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a enwyd yn Brentis y Flwyddyn. Mae Maria’n llysgennad dros yrfaoedd peirianyddol i’r genhedlaeth nesaf a bydd ei phrentisiaeth bedair blynedd yn rhoi Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn peirianneg drydanol iddi.

Jamie Stenhoff, 21 oed, peiriannydd dylunio afionig o’r Fflint, sy’n gweithio i Marshall Aviation Services ym Maes Awyr Penarlâg, a enillodd Wobr Prentis Uwch y Flwyddyn. Ac yntau wedi ennill Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg Weithgynhyrchu Uwch, mae wedi helpu i uwchraddio system reoli hedfan gymhleth ar fflyd o awyrennau cyfres 146 ac erbyn hyn mae’n gweithio tuag at radd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mhrifysgol Caer.

Enillwyd y gwobrau i gyflogwyr gan rai o fusnesau mwyaf Cymru a rhai llai adnabyddus. Aeth Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn i’r busnes teuluol Crimewatch Alarms Ltd and CW Electrical, Casnewydd, sydd wedi rhoi blaenoriaeth i hyfforddi a datblygu gweithwyr ers ei sefydlu 30 mlynedd yn ôl. Gan fod prinder peirianwyr medrus, da yn y diwydiant contractwyr trydan, sefydlodd y cwmni raglen brentisiaethau gan gydweithio â’r darparwr dysgu Coleg QS ac mae hynny’n talu ar ei ganfed iddynt.

Cwmni broceriaid yswiriant a rheoli risg, Arthur J. Gallagher o Lantrisant a enwyd yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn. Ar ôl gweld bod bwlch sgiliau ymhlith pobl oedd yn chwilio am swyddi yn y sector gwasanaethau ariannol, lansiodd y cwmni raglen brentisiaethau i hybu recriwtio a chynyddu gwasanaethau i gwsmeriaid. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae 74 o weithwyr wedi cwblhau prentisiaeth gyda’r cwmni ac ar hyn o bryd mae ganddynt 38 o brentisiaid yng Nghymru.

Dŵr Cymru Welsh Water gipiodd Wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn. Mae’r cwmni wedi datblygu rhaglen ddoniau ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion er mwyn sicrhau bod dyfodol y cwmni’n ddiogel yn nwylo gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Ers 2011, mae 87 o brentisiaid a hyfforddeion wedi’u cyflogi ac fe gafodd 23 o brentisiaid a hyfforddeion eraill eu recriwtio eleni.

I BT PLC aeth Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gan y cwmni dros hanner canrif o brofiad o redeg rhaglen brentisiaethau ac felly mae’n deall pwysigrwydd addysg a hyfforddiant parhaus i staff. Mae prentisiaethau ar gael ar gyfer nifer o wahanol swyddi ac erbyn hyn mae’r cwmni’n cyflogi 91 o brentisiaid yng Nghymru, gyda chynlluniau i gymryd 71 arall eleni.

Llongyfarchwyd yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol gan Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. “Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ac mae cyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell dros 80 y cant,” meddai.

“Mae meithrin pobl fedrus yn hanfodol er mwyn ein heconomi. Mae gennym brentisiaid gwirioneddol eithriadol yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig.”

Dywedodd Sarah John, Cadeirydd NTfW: “Prentisiaethau yw safon aur hyfforddiant galwedigaethol. Maent yn sicrhau bod gan gyflogwyr weithlu dawnus a brwd wrth law sydd â’r sgiliau ymarferol a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen yn awr ac i’r dyfodol.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau. Maent yn brawf o’r ffordd y gall y llywodraeth, cyflogwyr, prentisiaid a darparwyr dysgu yng Nghymru fynd ati’n llwyddiannus mewn partneriaeth i ddatblygu sgiliau, gan sicrhau canlyniadau hirdymor a’r system brentisiaethau orau yn y Deyrnas Unedig.”

Hefyd yn y rownd derfynol roedd: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Cameron Thomas, Llaneirwg, Caerdydd a hyfforddwyd gan Itec Skills and Employment a Leon Proudlock, Henllan, Dinbych a hyfforddwyd gan Grŵp Llandrillo Menai. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Darren Watts, Tre-biwt, Caerdydd a hyfforddwyd gan ACT Limited a Rhys Pugh, Pontyberem, Llanelli a hyfforddwyd gan Goleg Sir Gâr. Twf Swyddi Cymru: Callum Jones, Pont-y-pŵl a hyfforddwyd gan Itec Skills and Employment ac Oliver Chatfield, y Farteg, Pont-y-pŵl a hyfforddwyd gan Itec Skills and Employment.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Gwilym Bowen Rhys, Bethel, Caernarfon a Rhys Donovan, Merthyr Tudful. Prentis y Flwyddyn: Leanne Williams, Wrecsam a Michael Leach, Rhydyfelin, Pontypridd. Prentis Uwch y Flwyddyn: Adam Harvey, y Barri a Matthew Edwards, Wrecsam. Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Lisa Marie Winter o Acorn Learning Solutions, Casnewydd sy’n byw yn Llanharan a Michael Ramsden o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng sy’n byw yng Nghaerdydd.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Ken Picton Salon, Caerdydd ac Adran Gwasanaethau Gofal Plant Prifysgol De Cymru, Trefforest, Pontypridd. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Little Inspirations, Pontyclun a Values in Care Ltd, Hengoed, Caerffili. Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Argos; OP Chocolate, Dowlais, Merthyr Tydfil ac Innogy Renewables UK, Llanidloes.

More News Articles

  —