Darparwyr hyfforddiant Cymru yn croesawu buddsoddiad o £144m mewn prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae’r cadarnhad a gafwyd heddiw bod yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £144 miliwn er mwyn ariannu dros 50,000 o brentisiaethau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd dros y pedair blynedd nesaf wedi’i groesawu gan y sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y buddsoddiad yn ariannu 52,000 o brentisiaethau, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u targedu at bobl ifanc 16-24 oed ym meysydd adeiladu, peirianneg, TG a manwerthu. Bydd pob prentis yn cael cyfle i astudio ar gyfer cymwysterau o lefel sylfaen i lefel uwch.

Yn ogystal, datgelodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi “rhagor o fuddsoddi mewn agweddau eraill ar ein rhaglen brentisiaethau yn ystod yr wythnosau nesaf”.

Croesawyd y cyhoeddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sef rhwydwaith o dros gant o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith sydd â chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru, ond pwysleisiwyd mai cadarnhad o ymrwymiad cyllidebol gan Lywodraeth Cymru oedd hyn yn hytrach nag arian newydd.

Dywedodd Jeff Protheroe, rheolwr gweithrediadau NTfW: “Rydym wrth ein bodd â chyhoeddiad y Prif Weinidog sy’n cadarnhau’r ymrwymiad a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ddiweddar yn ei chyllideb i gefnogi prentisiaethau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd – rhywbeth y mae ein haelodau eisoes yn brysur yn ei gyflawni.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddiad yn fuan ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau yng ngweddill Cymru, yn enwedig gan fod y galw’n dal i dyfu ym mhob sector a rhanbarth.

“Mae’r newyddion hwn yn cadarnhau pa mor bwysig i economi Cymru yw hyfforddi prentisiaid. Gallwn ymfalchïo mai Cymru sydd â’r record orau yn y Deyrnas Unedig am gyflenwi prentisiaethau o safon uchel.

“Mae’r NTfW yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi darparwyr, cyflogwyr, dysgwyr a Llywodraeth Cymru wrth ddarparu prentisiaethau a chynyddu’r ddarpariaeth er mwyn ateb anghenion Cymru.”

More News Articles

  —