Galwad olaf am geisiadau ar gyfer Gwobrau VQ eleni yng Nghymru
Y dyddiad cau ar 1 Mai yn prysur agosáu ar gyfer Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) eleni, sy’n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ar draws Cymru.
Mae Gwobrau VQ, sy’n cael eu trefnu gan Adran dros Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a CholegauCymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn helpu i arddangos unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau maent yn cynnig o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.
Mae’r gwobrau, sydd bellach yn eu hwythfed flwyddyn, yn cyd-daro â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (VQ Day) – dathliad ledled y DU o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.
Mae dau gategori yn y gwobrau: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn.
Cyhoeddir y enwau’r ymgeiswyr sydd yn cyrraedd y rhestr fer ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo ddisglair i’w chynnal yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ar noson 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae Gwobr VQ yn fwy na gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich proffesiwn o ddewis. Caiff rhaglenni datblygu proffesiynol a phersonol eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ag anghenion cwmni, anghenion cwsmeriaid ac anghenion unigol.
“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu’r cyflogwyr a’r dysgwyr yng Nghymru sydd sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
“Os bydd economi Cymru i barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau priodol ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”
Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos dilyniant clir a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd yn dangos cyflawniadau sylweddol yn eu maes.
Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn, o’i gymharu â’u maint, i wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, neu i fynd i mewn ewch http://www.vqday.org.uk a lawrlwytho ffurflen gais.
More News Articles
« Darparwyr hyfforddiant Cymru yn croesawu buddsoddiad o £144m mewn prentisiaethau — Cyhoeddi enillwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru Her Arian am Oes »