Darparwyr hyfforddiant yn clywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith
Cafodd cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith eu hamlinellu wrth darparwyr hyfforddiant y genedl yn eu cynhadledd flynyddol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, wrth aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd, ei bod yn rhaid i bawb sy’n ymwneud â dysgu seiliedig ar waith weithredu mewn ffordd gyfrifol ac ymroddgar er mwyn gwireddu’r cynlluniau.
Cyflwynodd ei hanerchiad cynhwysfawr mewn cyfnod pryd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cyflwyno ardoll prentisiaethau ar gyflogwyr mawr. Mae’r symudiad hwn wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi ei chynllun gweithredu hi ar gyfer cydfuddsoddi mewn prentisiaethau hyd nes y daw manylion llawn yr ardoll i’r amlwg. Efallai na fydd hynny tan yr adolygiad o wariant ddiwedd Tachwedd.
“Rwy’n hollol gefnogol i’r egwyddor y dylai cyflogwyr gyfrannu at gostau prentisiaethau,” meddai’r Dirprwy Weinidog. “Ond mae’n amlwg bod yr ardoll yn torri ar draws ein strategaeth lwyddiannus ni ar gyfer cydfuddsoddi ac mae arnom ofn y bydd hyn yn amharu ar y symudiad at economi fwy sgilgar – rhywbeth y mae ar Gymru ei angen.”
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynyddu nifer y bobl ifanc 17-18 oed sy’n cychwyn mewn prentisiaethau i 6,000 a rhoi rhagor o bwyslais ar brentisiaethau mwy sgilgar, yn enwedig mewn Technoleg Gwybodaeth a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Mae hi’n awyddus i weld prentisiaid a phobl ifanc sy’n gadael addysg bellach ac sy’n dewis hunan-gyflogaeth yn cael eu paratoi’n well, i wella’r cysylltiad rhwng addysg bellach a phrentisiaethau, ac i ariannu rhai cymwysterau addysg uwch a ddilynir fel rhan o fframwaith Prentisiaethau Uwch.
Cyfeiriodd at “ymchwyddau sgiliau” a dywedodd y bydd angen cymwysterau lefel pedwar ac uwch ar hanner y gweithlu erbyn 2022 er mwyn iddynt weithredu’n effeithiol yn y gweithlu.
Cyhoeddwyd camau i helpu pobl ifanc i ganfod eu ffordd o gwmpas yr amrywiaeth “ddryslyd” o ddewisiadau dysgu a gwaith sydd ar gael iddynt. O fis Tachwedd ymlaen, bydd ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cyhoeddi’r holl ddarpariaeth ôl-16 ar lein trwy’r Prospectws Ardal Gyffredin.
Yna, bydd y Porth Sgiliau’n cynnig gwasanaeth asesu a chyfeirio cynhwysfawr i helpu unigolion a busnesau sy’n chwilio am gymorth ym maes sgiliau yng Nghymru a bydd Llwybrau Cyflogaeth yn mapio ac yn trefnu’r ddarpariaeth cyflogadwyedd.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwerthuso’i rhaglen Hyfforddeiaethau i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion yr holl bobl ifanc sy’n gymwys. Yn ogystal, bydd y rhaglen Barod am Waith yn dal i gefnogi oedolion di-waith trwy gynnig sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a bydd Rhaglen Cyflogadwyedd Oedolion newydd yn dechrau fis Ebrill nesaf.
Datgelodd y Dirprwy Weinidog hefyd bod Llywodraeth Cymru’n dymuno dod yn gyfrifol am gyflenwi rhaglenni cymorth cyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru.
“Mae’n rhaid i ni barhau i ddatblygu prentisiaethau mewn sectorau blaenoriaeth a’u hymestyn mewn ymateb i brinder sgiliau mewn swyddi technegol a chrefftus iawn, fel peirianneg a TG, er mwyn hybu cynhyrchiant,” meddai.
“Rydym am roi swyddi yn ôl wrth galon ein system gan wneud ‘ennill a dysgu’ yn norm diwylliannol. Rydym yn cymryd camau a fydd yn sicrhau bod gwell cysylltiad rhwng darpariaeth addysg bellach a phrentisiaethau, eu bod yn fwy hyblyg a’u bod yn arwain yn fwy hwylus at sgiliau lefel uwch.”
‘Golwg 20:20 – Tuag at System Sgiliau gyda’r Gorau yn y Byd’ oedd thema’r gynhadledd a’i nod oedd gweld beth mwy y gellir ei wneud i adeiladu system sgiliau gyda’r gorau yn y byd yng Nghymru.
Roedd Ewart Keep, cyfarwyddwr y Ganolfan Sgiliau, Gwybodaeth a Pherfformiad Sefydliadau, Prifysgol Rhydychen, yn meddwl bod yr ardoll prentisiaethau’n syniad gwael ond gallai ddeall y rhesymeg.
Bu cyflogwyr Prydain yn gwario llai ar hyfforddiant ers cyn y dirwasgiad diwethaf ac roedd cynhyrchiant yn isel o’i gymharu â gweddill y byd – rhywbeth nad oedd yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
“Rydych yn disgwyl i gyflogwyr ddechrau rhoi eu dwylo yn eu waledi mewn cyfnod pan maent yn gwario llai ar hyfforddiant,” meddai. “Ond does gan y Llywodraeth ddim llawer o ddewisiadau. Dydi’r model presennol ddim yn gynaliadwy.”
Dywedodd fod angen cynllunio hirdymor ar gyfer hyfforddiant, ar sail gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur a dywedodd ei bod yn bwysig i wneuthurwyr polisïau beidio ag anghofio’r bobl oedd eisoes yn gweithio wrth ystyried dysgu seiliedig ar waith gan mai nhw oedd sylfaen yr economi.
Dywedodd Peter Rees, cadeirydd NTfW: “Mae gen i deimladau cymysg am yr ardolll prentisiaethau. Ar sail y dystiolaeth bod cwmnïau’n buddsoddi llai mewn hyfforddiant, mae’n rhaid llenwi’r bwlch ryw ffordd. Os bydd ardoll, mae angen i ni gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn caell ei defnyddio er budd economi Cymru.”
Dywedodd siaradwr arall, Toni Pearce, pennaeth cyflogaeth a sgiliau gyda NIACE, ei bod yn bwysig i ddarparwyr hyfforddiant fynd i ysgolion i roi gwybodaeth am brentisiaethau a galwodd am amddiffyn cyllidebau hyfforddiant pan gaiff yr ardoll newydd ei chyflwyno. “Mae’n amser cyffrous ar gyfer polisi prentisiaethau ond mae’n rhaid i ni sicrhau ei fod yn iawn,” meddai.
Y siaradwr arall oedd Helen Hoffmann, swyddog polisi addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar Gyflogaeth, Materion Cymdeithasol, Sgiliau a Symudedd Llafur.
Dyma bynciau rhai o’r gweithdai: Ymgorffori’r ‘Weledigaeth ar gyfer Rhagoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith’, Integreiddio dwyieithrwydd mewn gweithlu sydd gyda’r gorau yn y byd, Tuag at weithlu proffesiynol – paratoi ar gyfer y cofrestru, Gwneud i wybodaeth am y farchnad lafur weithio a Prentisiaethau i bawb – Galluogi pawb i gyflawni eu gwir botensial.
More News Articles
« Cwmnïau o Gaerdydd ac Abergele’n dathlu llwyddiant dwbl mewn gwobrau prentisiaethau — EE yn derbyn gwobr genedlaethol ar ôl i’w raglen brentisiaeth roi hwb i sgiliau a’r gyfradd cadw staff »