EE yn derbyn gwobr genedlaethol ar ôl i’w raglen brentisiaeth roi hwb i sgiliau a’r gyfradd cadw staff

Postiwyd ar gan karen.smith

Celebrating the award are operations manager Claire Litten-Price (left) with team lead for apprentices at Merthyr Tydfil Nicola Watkins.

Yn dathlu’r wobr mae rheolwr gweithrediadau Claire Litten-Price (chwith) a’r arweinydd tîm am brentisiaid ym Merthyr Tudful, Nicola Watkins.

Dathlodd un o’r cwmnïau cyfathrebu digidol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sydd â chanolfan ym Merthyr Tudful, anrhydedd mawr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Cafodd EE ei enwi’n Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil uchel â 450 o westeion yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd, ar ddydd Iau.

Dywedodd y rheolwr gweithrediadau, Claire Litten-Price: “Mae hon yn wobr wirioneddol ragorol, ac mae’r cwmni’n ei haeddu am yr holl waith mae wedi ei wneud gyda phrentisiaid ym Merthyr Tudful.

“Rydyn ni’n ceisio gwneud i’n prentisiaid ddeall bod gan bob un ohonynt ran bwysig i’w chwarae, a’u bod yn gallu gwneud gwahaniaeth mor fawr i’r cwmni.”

Mae’r gwobrau uchel eu parch hyn yn dathlu llwyddiannau rhagorol pobl sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, sydd wedi dangos dull deinamig o hyfforddi, ac sydd wedi dangos y gallu i achub y blaen, i fentro, i arloesi, i fod yn greadigol, ac i ymrwymo i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Mae’r gwobrau, sydd wedi eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, wedi eu noddi gan Pearson PLC, a’r partner yn y cyfryngau yw Media Wales. Mae’r rhaglen prentisiaethau yng Nghymru wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae EE, sy’n gwasanaethu mwy na 30 miliwn o gwsmeriaid, ar flaen y gad o ran arloesi, ac mae’n cyflogi mwy na 750 o staff rheng flaen a staff cymorth yn ei ganolfan ym Merthyr Tudful. Mae prentisiaethau’n rhan sylweddol o’i raglen dysgu a datblygu, ac yn tanategu ei werthoedd “Bold, Clear and Brilliant”.

Y cwmni cyfyngedig cyntaf yng Nghymru i lwyddo i ennill statws Aur Buddsoddwyr mewn Pobl oedd EE, ac enillodd y cwmni’r teitl “Lle Gorau i Weithio” yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Ewrop 2012.

Sefydlodd y cwmni ei raglen prentisiaethau dair blynedd yn ôl, ac un o’r prif resymau dros wneud hyn oedd lleihau nifer y bobl sy’n gadael y sefydliad yn eu blwyddyn gyntaf. Mae’r cwmni’n cyflogi 251 o brentisiaid ar hyn o bryd.

“Roedd 57 y cant o’n gweithwyr rheng flaen yn gadael yn ystod y flwyddyn gyntaf, a wnaeth arwain at gostau hyfforddiant a recriwtio sylweddol,” meddai Nicola Watkins, arweinydd tîm prentisiaid yng Ngwasanaethau i Gwsmeriaid EE ym Merthyr Tudful.

Mae’r ffigur hwnnw wedi gostwng i 30 y cant ers cyflwyno’r rhaglen prentisiaethau mewn partneriaeth â darparwr dysgu, Y Coleg, ym Merthyr Tudful.

Ffurfiodd Y Coleg ac EE bartneriaeth yn benodol i ddatblygu rhaglen a fyddai’n helpu i gynyddu cyfradd gadw’r busnes ac i recriwtio pobl ifanc o’r ardal leol.

“Mae timau o brentisiaid yn dal yn fwy dymunol na phrofiad blaenorol. Mae lefelau ymgysylltu wedi cynyddu a lefelau salwch wedi gostwng hefyd, sydd yn werth £300,000 y flwyddyn,” ychwanegodd Nicola.

Mae EE yn y DU yn bwriadu bod wedi darparu 1,300 o brentisiaethau erbyn diwedd y flwyddyn. Daeth un o’r rhain, Lloyd Price, 20, o Ferthyr Tudful, yn ail ar gyfer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae gennym brentisiaid a dysgwyr gwirioneddol eithriadol yng Nghymru, ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

“Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Rydym yn falch o ddarparu un o raglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus Ewrop, ac mae’r cyfraddau llwyddo yng Nghymru ymhell dros 80 y cant. Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol ar gyfer ein heconomi.”

More News Articles

  —